Georgia Miggins – Cymeradwyaeth Uchel: Gwobr Oedolyn Ifanc
Mae bryd Georgia Miggins ar ddod yn athrawes therapi cerdd a bod yn esiampl gadarnhaol ar gyfer pobl ifanc fel hi sydd ag anghenion Dysgu ychwanegol.
Wedi goresgyn cyfres o heriau yn ystod ei haddysg, mae Georgia bellach yn ffynnu. Mae wrthi’n gweithio tuag at Gymwysterau Lefel 1 mewn Sgiliau Hanfodol, mae’n canu gyda chôr roc, wedi ennill tystysgrif Gradd 5 mewn canu ac yn gobeithio symud ymlaen i Radd 8 i gefnogi ei huchelgais i ddod yn athrawes.
Ar ôl cynrychioli Anabledd Dysgu Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru pan oedd yn 17 oed, mae Georgia yn aelod o Gyngor Lleisiau Mencap, ymddiriedolydd ieuengaf Anabledd Dysgu Cymru ac yn gwirfoddoli ar ddau fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg, sy’n anelu i wella bywydau pobl gydag anableddau.
Cafodd Georgia ddiagnosis o awtistiaeth, anableddau dysgu ac ADHD yn bedair oed, a bu’n dioddef o bryder oherwydd bwlio yn yr ysgol gynradd. Fodd bynnag, fe ffynnodd yn Ysgol Pen y Bryn lle’r oedd yn brif ferch ac yn aelod o Gyngor yr Ysgol.
Gan sylweddoli nad oedd llwybr coleg traddodiadol yn gweddu iddi, ofnai na fyddai dim byd ar ei chyfer nes iddi ddechrau dosbarth Sgiliau Hanfodol gyda Dysgu Gydol Oes Abertawe a’i helpodd i adennill ei hyder a’I chymhelliant.
“Rydw i wrth fy modd yn dysgu, cael gwybodaeth ar wahanol bynciau a datblygu sgiliau newydd,” meddai Georgia. “Mae’n dangos fod ffyrdd eraill i gael cymwysterau. Mae’n dda cael pobl sy’n credo ynddoch chi.
“Dw i eisiau bod yn fodel rôl positif ac ysbrydoli pobl eraill ag anghenion dysgu ychwanegol i gael mynediad at yr un cyfleoedd â gefais i.”
“Mae fy stori yn dangos na fydd pethau yn rhwydd bob amser ond mae’n bwysig dal i gredu ynddoch eich hun. Peidiwch byth â gadael i farn neu ragfarn pobl neu stereoteipiau benderfynu eich llwyddiant neu eich dyfodol. Fy arwyddair yw: “Credu a chyflawni!””
Mae Karen Ward, Tiwtor Sgiliau Hanfodol Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Abertawe, yn disgrifio Georgia fel “llysgennad gwych” ac yn rhagweld dyfodol disglair iddi.
“Bydd Georgia yn arwain y ffordd wrth wneud gwahaniaeth ar gyfer pobl eraill fel hi,” meddai. “Er ei bod yn cydnabod ei hanawsterau ei hun, mae’n croesawu her yn gadarnhaol ac yn symud ymlaen yn frwdfrydig, nid er ei budd ei hun ond gyda phenderfyniad i wella bywyd pobl eraill.”