Hamdi Abdalkareem Abdalla Abdalrhman – Enillydd Gwobr Rhannu Dyfodol 2025
Wrth dyfu mewn rhanbarth o Sudan lle’r oedd gofal iechyd ac adnoddau addysgol yn brin, datblygodd Hamdi Abdalrhman ddealltwriaeth ddofn o rym trawsnewidiol addysg. Gydag anogaeth ei fam, daeth yn aelod cyntaf o’i deulu, pentref a’r gymuned wledig i gymhwyso yn feddyg. Ar ôl llwyddo i gael gradd feddygol, roedd Hamdi yn rheoli ystafell argyfwng yn Ysbyty Clustiau Trwyn a Gwddf Khartoum ac yn ymarfer meddygaeth glinigol a llawfeddygaeth ar draws pum ysbyty gwahanol mewn taleithiau gwahanol yn Sudan.
Wrth weithio yn y swyddi hyn, fe wnaeth sylweddoli y gellid gwella ei sgiliau rheoli gofal iechyd. Ers cyrraedd Cymru, mae wedi cryfhau ei sgiliau rheoli a Saesneg trwy ddilyn cyrsiau Sgiliau Rheoli ac Arwain Hanfodol a Rheoli Prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n dweud bod hynny wedi “newid ei fywyd.”
“Mae effaith y cyrsiau hyn wedi bod yn ddwys,” meddai Hamdi. “Trwy integreiddio fy arbenigedd meddygol gyda sgiliau arwain a rheoli newydd, rwyf wedi gwella gwaith tîm a chynhyrchiant yn fy sefydliad. Rwy’n mwynhau gweithio yma yng Nghymru a rhyngweithio gyda chleifion a chydweithwyr.”
Ar hyn o bryd mae Hamdi’n gweithio yn Uned Lawfeddygol Arhosiad Byr Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac mae’n gobeithio ailgymhwyso i ymarfer fel meddyg yn y Deyrnas Unedig y flwyddyn nesaf. Ni fu ei daith mewn bywyd yn un heb heriau, gan gynnwys colli ei chwaer iau yn rhyfel cartref Sudan. “Dim ond cryfhau fy mhenderfyniad y mae’r helbulon hyn wedi ei wneud,” pwysleisiodd. “Nid yn unig mae addysg wedi achub fy mywyd ond mae hefyd wedi tanio fy ymrwymiad i ddysgu gydol oes fel dull o greu newid ym
mywydau pobl.
“Ni ddylai oedran, cefndir nag amgylchiadau fyth fod yn rhwystrau rhag dysgu. Mae dysgu gydol oes yn daith ddiddiwedd sy’n cyfoethogi twf personol a chyfleoedd proffesiynol.”
Dywedodd ei enwebydd, Jemma Cox, tiwtor Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Caerdydd: “Dengys stori Hamdi rym trawsnewidiol addysg a phwysigrwydd sicrhau bod cyfleoedd i ddysgu ar gael i bawb.
Mae ei angerdd dros ddysgu a’i ymrwymiad a’i frwdfrydedd wedi disgleirio. Rydym yn siŵr y bydd yn parhau i ddisgleirio yn ei yrfa yn y dyfodol, ac yn gobeithio y bydd ei stori yn ysbrydoli eraill i ddychwelyd i’r dosbarth.”