Hannah Rowlatt – Enillydd Gwobr Siaradwr Cymraeg Newydd
Mae Hannah Rowlatt yn dweud fod dysgu Cymraeg ac addysg oedolion wedi ei helpu i ailddarganfod ei hyder ar ôl iddi golli ei hannibyniaeth yn ystod pandemig Covid-19.
Wedi cofestru’n ddall a gyda chyflwr dirywiol ar ei golwg, mae Hannah yn Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd i’r RNIB. Dechreuodd Hannah ar gwrs Mynediad yn 2022, gan fod llawer o’i chydweithwyr yn siarad Cymraeg.
Gan fynychu dosbarthiadau wythnosol, symudodd ymlaen I gwrs Sylfaen ac mae ar fin dechrau cwrs Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd.
“Mae’r dosbarthiadau wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd drwy ddatblygu sgil newydd i’w defnyddio yn y gwaith a gyda chyfeillion, a hefyd drwy fy atgoffa o’r hyn y gallaf ei wneud,” esboniodd Hannah. “Mae fy hyder ac annibyniaeth wedi tyfu fel canlyniad i fod mewn amgylchedd cefnogol.”
Gyda chefnogaeth ei thiwtor, sydd wedi addasu’r cwrs i’w wneud yn hygyrch a chynhwysol, cafodd hefyd ei hannog gan ddysgwyr eraill ac mae wedi mwynhau’r hwyl a gawsant yn dysgu gyda’i gilydd. “Mae cymryd rhan mewn addysg oedolion wedi fy ngalluogi i ailddarganfod fy hyder, penderfyniad ac, yn bwysicaf oll, fi fy hun. Mae gen i ffordd bell i fynd ond mae’n gyffrous dechrau ar lefel nesaf y cwrs.
“Rwy’n credu y dylai pawb gael cyfle i ddysgu Cymraeg oherwydd ein bod yn byw yng Nghymru a hi yw ein iaith genedlaethol. Mae cymryd rhan mewn addysg oedolion yn fwy dim ond y sgiliau rydych yn eu dysgu, mae hefyd am y profiad cadarnhaol a lles.”
Mae Hannah yn defnyddio darllenydd sgrin ar ei gliniadur i ddarllen deunyddiau’r cwrs yn uchel. Defnyddiodd ei phrofiad yn dysgu i weithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i wneud deunyddiau’r cwrs yn fwy hygyrch.
‘Mae fersiynau o’r deunyddiau hyn ar ddarllennydd sgrin yn awr ar gael i bobl eraill ledled Cymru sy’n ddall ac sydd â golwg rhannol.’
“Fy ngobaith yw y caiff pobl eraill sy’n ddall ac yn gweld yn rhannol eu hannog i ymuno â dosbarth, manteisio o’r adnoddau sydd ar gael yma a phrofi llawenydd dysgu fel y gwnes i,” meddai Hannah.
Dywedodd Dr Orwig-Palmer, a enwebodd Hannah am y wobr: “Gall dychwelyd i’r ystafell ddosbarth fel oedolyn fod yn anodd a gobeithiaf y bydd stori Hannah yn dangos yr amgylchedd croesawgar a chefnogol y gall tiwtoriaid a dysgwyr ei greu.
“Mae’n wych gweld sut mae Hannah wedi cymryd ei phrofiad personol o heriau hygyrchedd a throi hynny yn rhywbeth gwirioneddol gadarnhaol, gan ddefnyddio ei hangerdd i helpu i wella cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gyfer dysgwyr sy’n ddall ac yn gweld yn rhannol.”