Enillydd Gwobr Oedolyn Ifanc
Harley Clements

Enwebwyd Gan: Coleg Sir Gâr
Noddir gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Ngrŵp Cymwysterau ac Asesu AIM
Cafodd Harley Clements ei bwlio yn yr ysgol gynradd, gan edrych am ddechrau newydd symudodd i ysgol uwchradd wahanol, ac ymunodd â grŵp o ffrindiau gan fod yn awyddus i wneud argraff i osgoi cael ei bwlio eto ac arweiniodd hyn at drafferth.
Dywedodd, “Fe waethygodd y pethau roedden ni’n ei wneud ac arwain at ddod i gysylltiad gyda’r heddlu. Erbyn i mi fod yn ddigon dewr i gerdded bant, roeddwn eisoes wedi sefyll fy TGAU a dim ond cael a chael wnes i basio’r rhai roeddwn wirioneddol eu hangen. Wnes i ddim dechrau mwynhau addysg nes i mi ddechrau yn y coleg.”
Gwnseth y profiad o golli ei thad-cu hi yn fwy penderfynol a chynyddu ei ffocws i newid ei llwybr. “Fe wnaeth gweld fy nhad-cu yn yr ysbyty a gweld pobl yn gofalu amdano wneud i mi sylweddoli pa mor werth chweil yw swydd nyrsio. Roeddwn wedi astudio gwasanaethau cyhoeddus yn y coleg ac am dipyn roeddwn yn meddwl mod i eisiau astudio nyrsio oedolion. Ond fe wnaeth COVID-19 newid pethau i fi. Roeddem bob amser wedi bod ag anifeiliaid anwes pan oeddwn yn blentyn ond fe wnes ofalu llawer mwy amdanyn nhw yn ystod y pandemig. Roeddwn yn ymlacio pan oeddwn gyda nhw felly fe benderfynais mod i eisiau cyfuno fy niddordeb mewn nyrsio gyda fy nghariad at anifeiliaid.”
Gwelodd y newid hwn mewn ffordd o feddwl, ynghyd â goresgyn heriau ei phlentyndod, Harley yn dechrau mwynhau addysg am y tro cyntaf. Rhagorodd yn fuan a dywedodd, “Roedd rhyddid coleg yn gweddu i mi a roeddwn yn mwynhau’r dewis pynciau. Pan nad oedd gen i wersi, roeddwn yn medru mynd gartref at fy rhieni, brawd a chwaer a wnaeth i gyd fy nghefnogi ac maent wedi fy ysbrydoli i symud ymlaen.”
Graddiodd Harley o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyda gradd mewn Gofal a Llesiant Anifeiliaid ac mae newydd ddechrau ar swydd newydd yn gweithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid.
“Unwaith yr oedd gen i yrfa mewn sylw, roeddwn yn gwybod nad oedd yn rhy hwyr i newid fy nyfodol. Cefais glod trebl yn y coleg a roddodd y credydau UCAS roedden eu hangen i fynd i brifysgol.
“Ni ddylwn erioed fod wedi gwrando ar y bobl oedd yn dweud na fedrwn ei gwneud hi. Wrth edrych i’r dyfodol, rwy’n bwriadu dal i symud ymlaen drwy lefelau addysg ac ennill cymwysterau yn y proffesiwn milfeddygol.”
Mae Steph Rees yn Ddarlithydd Arweiniol yng Ngholeg Sir Gâr a hi oedd tiwtor personol Harley yn ystod ei hamser yn y Brifysgol. Dywedodd:
“Rydw i’n edmygu Harley yn fawr iawn. Ni fu ei thaith i lwyddiant yn rhwydd ond mae wedi profi i’w hunan ac eraill fod gwaith caled a phenderfyniad yn talu ar ei ganfed. Soniodd Harley wrthyf yn gyfrinachol am ei blynyddoedd addysg cynnar ac ers hynny mae wedi bod yn agored ac yn fodlon addasu i newid a chyngor. Roedd yn cynhyrchu gwaith lefel clod yn barhaus yn y brifysgol ac mae wedi llwyddo i ganfod swydd oherwydd ei hymroddiad. Bu hon yn daith hir ac emosiynol i Harley ond yn bendant iawn mae hi’n fenyw ifanc ddibynadwy ac ymroddedig a fydd yn mynd ymlaen i gyflawni pethau rhyfeddol.”