Honey Jenkins – Enillydd Gwobr Llais Dysgwyr
Roedd Honey Jenkins bob amser eisiau bod yn adeiladwr. Mae’n awr yn gosod y sylfeini ar gyfer cenhedlaeth newydd o fenywod ifanc i weithio mewn diwydiant adeiladu mwy cynhwysol ac amrywiol.
Gyda diagnosis o awtistiaeth a dyslecsia, dywedwyd wrth Honey sawl gwaith na fedrai fod yn friciwr ond fe wnaeth hynny hi yn fwy penderfynol fyth i lwyddo.
Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Sgiliau Adeiladu, aeth Honey yn ei blaen i ennill ei Phrentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Briciwr.
Tu hwnt i’w gofynion academaidd creiddiol, fe wnaeth gwblhau hyfforddiant ychwanegol mewn gweithio ar uchder, codi a chario ac olwynion sgraffinio, gan sicrhau cymwysterau mewn iechyd a diogelwch sydd eu hangen I ragori ar safle adeiladu. Cwblhaodd ei blwyddyn olaf tra’r oedd yn feichiog gyda’i phlentyn cyntaf.
Daeth yn llysgennad, gan rannu ei stori drwy gyfweliadau radio a digwyddiadau ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod i brofi y gall menywod ffynnu mewn adeiladu a hefyd rymuso’r genhedlaeth nesaf i ymuno â’r proffesiwn.
“Rwyf wedi trefnu a chyflwyno llwyth o weithdai ymarferol mewn llawer o ddigwyddiadau ysgol,” meddai Honey, a fydd yn dechrau ar her newydd gydag adeiladwr lleol yn dilyn ei chyfnod mamolaeth.
“Rwyf wedi siarad gyda disgyblion ysgol am fedru cyflawni eu huchelgais, hyd yn oed os yw pobl yn dweud wrthynt na fedrant wneud beth maent eisiau. Rwy’n brawf pendant o hynny.
“Fy nhad wnaeth fy ysbrydoli i weithio yn y diwydiant adeiladu. Roedd e yn gweithio fel tasgmon, ond fe wnes wynebu gymaint o rwystrau ac agweddau negyddol ar hyd y ffordd. Mae mam wedi bod yn gymorth enfawr ac fe wnaeth y brentisiaeth a’r fentoriaeth a gefais yn y coleg wneud i mi sylweddoli’r hyn y gallwn ei gyflawni. Nawr, does dim pendraw iddi.”
Cafodd sgiliau ymarferol eu mireinio dan arweiniad arbenigol darlithwyr coleg a Meistr Prentisiaeth yn Taylor Wimpey, cyn i Honey ymuno â thîm cefnogol o fricwyr.
Parodrwydd Honey i fynd yr ail filltir oedd yn sefyll allan i’w thiwtoriaid.
“Rydym yn anhygoel o falch ac mae’n fraint i fod wedi cefnogi Honey ar hyd y daith,” meddai Denise Brookes- Cooze, Pennaeth Dysgu Seiliedig ar Waith, Coleg Penybont.
“Mae’n rhyfeddol; y math o brentis sy’n gwneud mwy na dim ond meistroli ei chrefft ond sy’n hybu newid diwylliannol ar gyfer menywod mewn adeiladu.”