Winner of the Hywel Francis Award for Community Impact
Hyb Cymunedol Cwmpawd
Mae’r angen cynyddol i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i unrhyw un 16 oed a hŷn ar draws ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi arwain at ganolfan ddysgu flaengar sydd wedi ymgysylltu â mwy na 1,000 o bobl yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig.
Ail-frandiwyd Hyb Cymunedol Cwmpawd yn Ebrill 2023 ac mae’r ganolfan yn y Gurnos wedi ehangu mynediad i breswylwyr yn yr ardal leol, gan fabwysiadu dull hyblyg i estyn allan i’r gymuned.
Roedd y lansiad yn digwydd yr un pryd â chyfraniad o arian cyfalaf ar gyfer adnewyddu gan Lywodraeth Cymru a wnaeth droi un bloc hyfforddi yn llety byw â chymorth i bobl ifanc yn gadael gofal. Roedd hyn yn helpu i’w dwyn yn nes at ddysgu a chynnydd gyda’r Hyb ar eu trothwy.
Mae amrywiaeth o hyfforddiant a chymorth yr Hyb yn helpu dysgwyr i gynyddu eu sgiliau cysylltiedig â gwaith, gwneud cysylltiadau, gwella eu hyder a chael cyngor a chefnogaeth. Cynigir gweithdai, cyrsiau a digwyddiadau cymunedol ar ddyddiau ac amseroedd amrywiol trwy gydol yr wythnos. Mae’r holl gyrsiau, gweithdai a chymorth am ddim.
Mae’r cyfleuster yn unigryw yn y fwrdeistref gan nad oes unrhyw gyfleuster dysgu oedolion arall yn cynnig siop un stop o’r fath sy’n cynnwys ardaloedd adeiladu, gweithdai cerameg, canolfan TG, hyfforddiant manwerthu a dwy ystafell hyfforddi fawr.
Dywedodd Leanne Williams o Hyb Cymunedol Cwmpawd: “Mae’r tîm wedi gweithio’n galed i sefydlu amrywiaeth o gyrsiau ac i ddatblygu cynnig sy’n newid yn gyson sy’n annog pawb i ryw ffurf ar addysg oedolion, beth bynnag yw eu lefel, diddordeb a gallu, gan gynnwys rhai a all fod yn niwro-wahanol, fod â phroblemau iechyd meddwl neu ychydig iawn o sgiliau.”
Mae gan y prosiect hefyd fentor i gyn-droseddwyr i roi cymorth iddynt wrth symud ymlaen yn eu bywydau, gan leihau’r risg o ail-droseddu trwy gael mynediad at ddysgu a chyflogaeth gynaliadwy.
Derbynnir mwy na 100 o atgyfeiriadau bob mis gan naill ai sefydliadau partner neu unigolion ac mae mwy na hanner y dysgwyr wedi cwblhau cymhwyster ffurfiol.
Lluniwyd perthynas â darparwyr eraill fel Prifysgol De Cymru ac Addysg Oedolion Cymru i ddarparu rhai o’r rhaglenni dysgu o’r Hyb.
Mae’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys caffi cymunedol lle gall unigolion anabl ag anawsterau dysgu wirfoddoli, gweithio a dysgu ym maes lletygarwch ac arlwyo.
Mae hefyd awch i ddarparu gweithdai “Cwmpawd yn y Gymuned” mewn adeiladau cymunedol eraill ar draws Merthyr Tudful.
Noddwr categori: