Ida Aldred – Enillydd Gwobr Newid Bywyd

Pan gamodd Ida Aldred i mewn i Glwb Swyddi Dysgu Cymunedol Cas-gwent gyntaf ym Mawrth 2024, roedd ar bwynt isel yn ei bywyd. Roedd yn teimlo’n unig a di-rym a’i hiechyd meddyliol a chorfforol wedi dirywio ar ôl symud i’r dref yn ddiweddar a cholli ei swydd, cartref a char. Am bedwar degawd, roedd Ida wedi bod ofn mentro o’i phatrwm cyfforddus,
gan fod ofn y byd fel lle dychrynllyd, roedd yn cael trafferth dod o hyd i’w diben mewn bywyd.
O symud ymlaen 18 mis mae Ida yn wirfoddolwr hyderus a gwydn erbyn hyn gyda chyfoeth o sgiliau a chymwysterau newydd sydd wedi trawsnewid ei bywyd ac yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill. “Mae fy nyled i gyd i’r Clwb Swyddi,” meddai Ida. “Rwy’n cyfaddef fy mod wedi fy llorio braidd ar y dechrau, oherwydd ei fod yn hollol wahanol i unrhyw gwrs cyflogaeth arall. Yn y pen draw, fe wnaeth glicio bod y Clwb Swyddi yn union yr hyn yr oedd yn honni ei fod, amgylchedd cefnogol lle’r oedd y rhai oedd yn mynychu
gyda’i gilydd yn gallu cydweithio a chyfrannu at nodau unigol a’u nodau ar y cyd.”
Cyflawnodd Ida gymhwyster Datblygu Dysgu, a wnaeth helpu i ddynodi ei gwybodaeth, sgiliau a nodweddion personol a’i chryfderau. Am y tro cyntaf roedd yn gallu gosod ei nodau mewn bywyd, gan arwain at gymhwyster Goresgyn Rhwystrau i Waith gan Agored Cymru. Mae Ida hefyd yn dysgu Cymraeg ac mae’n wirfoddolwr hanfodol yn y Clwb Swyddi, ochr yn ochr â hyn mae’n hyrwyddo dysgu cymunedol ac yn cefnogi’r cwrs Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) fel cynorthwyydd.
“Mae Ida yn barhaus yn gwthio ei hun allan o’r man lle mae’n gyfforddus i ddysgu pethau newydd, dysgu a thyfu,” meddai ei thiwtor, Catrin Edwards. “Mae hi wastad yn cefnogi eraill yn y Clwb Swyddi ac mae wedi eu hannog i wthio eu hunain i ehangu eu gorwelion.” Newidiodd addysg oedolion fywyd Ida ac mae’n angerddol am helpu’r rhai nad ydynt yn siarad Saesneg i integreiddio, gan ddweud bod “rhannu diwylliant ac iaith, gan ddod o hyd i bethau newydd i’w gwerthfawrogi trwy bersbectif gwahanol yn rhoi egni mawr.”
Fel cam nesaf yn ei gyrfa, mae am ddilyn yr ardystiad TEFL (Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor). “Ers pan rwy’n cofio, nid wyf erioed wedi gweld fy hun â dyfodol, felly mae cael sylfaen i un, gwybod fy mod yn gallu addasu, datblygu a chyflawni pethau yr oeddwn i’n arfer breuddwydio amdanynt, mae fel cael ail fywyd, gyda’r holl bosibiliadau y mae hynny’n ei gynnig,” ychwanegodd Ida.