Enillydd Gwobr Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol
Inas Alali
Mae’r gwrthdaro yn Syria wedi lladd dros 600,000 o bobl gyda miliynau wedi eu dadleoli ac yn dal heb rywle i’w alw yn gartref.
Gorfodwyd llawer i ffoi o’u gwlad ar ôl i’w bywydau gael eu bygwth, ac i Inas Alali, roedd yn rhaid iddi wneud hynny ar ei phen ei hun yn dilyn marwolaeth ei gŵr.
Roedd yr athrawes a’i dau blentyn ifanc yn wynebu dyfodol ansicr yn ei “hannwyl” wlad, gan ei gadael heb unrhyw ddewis ond chwilio am hafan ddiogel lle gallai ganfod diogelwch.
“Roeddwn wedi gweithio ym maes addysg ers 16 mlynedd yn fy Syria annwyl, ond ar ôl marwolaeth fy ngŵr ac i’r rhyfel gychwyn, roedd fy mywyd, a bywydau fy mhlant dan fygythiad,” dywedodd Inas, a ddaeth i Gaerdydd yn 2019 trwy raglen ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig.
Penderfynodd ail ddeffro ei hangerdd dros addysg, ond er bod ganddi radd Saesneg, dim ond ail iaith oedd hi o hyd ac nid oedd yn ddigon da i addysgu yng Nghymru.
Felly fe wnaeth Inas ddwy flynedd o waith dysgu gwirfoddol i wella ei Saesneg, cyn mynd ati i ddychwelyd i addysgu amser llawn trwy ymgeisio am y Dystysgrif Myfyrwyr Graddedig Proffesiynol mewn Addysg Ôl Addysg a Hyfforddiant Gorfodol, sy’n ofyn ar gyfer unrhyw athro tramor sydd am ddod i mewn i system addysg ôl 16 Prydain.
Gwnaeth hanes ei chefndir argraff ar Brifysgol Metropolitan Caerdydd lle derbyniwyd hi i’w hamgylchedd gynhwysol yn groesawgar, gan roi cyfle iddi gymhwyso i addysgu addysg a hyfforddiant ôl 16.
Leanne Davies oedd ei thiwtor cwrs, sy’n cofio: “Roedd hi mor ddewr gan gynnig golwg i mi ar yr amgylchiadau ofnadwy oedd yn newid bywyd a ddaeth â hi i Gaerdydd.
“Roedd yn gadarnhaol trwy’r cyfan ac fe wnaeth ymgysylltu â nifer o wersi tiwtorial a pheirianweithiau cymorth i wella ei hun yn barhaus a chyrraedd y safon broffesiynol ofynnol i addysgu mewn addysg ôl 16.”
Er mwyn cynnal ei theulu a thalu am eu llety, roedd gan Inas ddwy swydd ran-amser gan gynnwys dysgu Arabeg yng Nghanolfan Arabaidd Fayza, roedd yn jyglo hyn i gyd wrth iddi barhau i astudio.
Gyda chefnogaeth gan ei mentoriaid, mae wedi cwblhau ei horiau addysgu ffurfiol i gymhwyso ac erbyn hyn mae’n addysgu mathemateg i oedolion yn ACT Training, gan barhau i addysgu Arabeg yn rhan-amser.
Ar ôl gweld ei gwlad yn cael ei rhwygo’n ddarnau, mae Inas yn disgrifio Prifysgol Metropolitan Caerdydd fel “Prifysgol Noddfa” am fod yn “sefydliad amrywiol a chynhwysol iawn” ac mae’n ychwanegu y bydd yn parhau ei hastudiaethau i lunio dyfodol hyd yn oed yn well iddi hi a’i phlant.
Enwebwyd gan:
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Noddwr categori: