Skills for Work Award Winner
Isaac Fabb
Wynebodd Isaac Fabb rai o’r heriau bywyd caletaf ac mae’n awr yn ddysgwr sy’n ysbrydoli sy’n esiampl i bobl ifanc yn cychwyn ar eu gyrfaoedd. Mae’r dyn 22 mlwydd oed, a gafodd ddiagnosis o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn 17 oed, wedi goresgyn caethiwed i gyffuriau a cholli ei frawd yng nghyfraith i orddibyniaeth i ragori fel saer coed talentog.
Fe wnaeth y cyfrifoldeb o ddod yn dad yn ei arddegau ei ysgogi i newid ei fywyd. “Wrth edrych yn ôl nawr, rwy’n sylweddoli bod yr heriau wedi gwirioneddol fy helpu i ganolbwyntio a bod yn fwy penderfynol i wneud yr hyn yr oeddwn am ei wneud,” dywedodd Isaac o Abertawe.
Er gwaethaf yr heriau hyn a gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau ffurfiol, roedd Isaac yn benderfynol o gael gyrfa, ac, yng nghanol caethiwed i sylweddau, yn ddi-ildio aeth ati i ymgeisio am gyrsiau coleg amrywiol.
Ar ôl ychydig o geisiadau aflwyddiannus, oherwydd ei gyflwr yn bennaf, fe wrthododd roi’r ffidil yn y to a chafodd le ar gwrs adeiladu aml-sgil yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Ffynnodd ar y cwrs a flwyddyn yn ddiweddarach sicrhaodd waith gyda Chyngor Dinas Abertawe fel prentis saer, gan gyflawni ei nod o weithio yn yr yrfa o’i ddewis gan ddal i ddysgu. Roedd dysgu yn ei waith yn gweddu’n well i Isaac, a llwyddodd i gael canlyniadau eithriadol a hefyd ei TGAU mathemateg wrth gwblhau ei gwrs aml-grefft.
Trwy gyflawni’r hyn yr oedd yn ei feddwl oedd yn gamp amhosibl arweiniodd, hyn at iddo gael ei enwi yn Brentis Cwrs Sylfaen y Flwyddyn, a’i gyflogwr yn ei ymgorffori yn ei dîm cyflogadwyedd sy’n annog pobl ifanc i ystyried prentisiaethau.
Ar hyn o bryd mae’n gwneud ei Lefel 3 a rhagwelir y bydd ei farc yn rhagoriaeth ddwbl ac mae mewn trafodaethau i ddilyn HNC mewn Rheolaeth Adeiladu.
Meddai Isaac: “Er bod y daith bum mlynedd yn anwastad, rwy’n awyddus iawn i barhau a derbyn yr her nesaf.
“Gallaf ddweud bod gwybod fy mod yn mynd i fod yn dad mor ifanc wedi fy nghymell ymlaen i droi cefn ar fy nghaethiwed i gyffuriau ond hefyd i sefyll ar fy nhraed i fod yr oedolyn ifanc yr oedd angen i mi fod. Er bod rhai meini tramgwydd, nid oedd dim yn rhoi mwy o foddhad na chyflawni gyrfa yr oeddwn yn meddwl ar un adeg ei bod ymhell tu hwnt i’m cyrraedd.”
Gyda dyfodol disglair o’i flaen yn awr, mae Isaac yn anelu at gyrraedd y brig yn ei broffesiwn ac mae wedi ennill digon o barch ar hyd y ffordd.
Dywedodd Medi Williams, Arbenigwr Cais Masnachol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Fe wnes i enwebu Isaac ar ran y coleg oherwydd ei fod yn ddysgwr sy’n ysbrydoli sydd wedi dod yn esiampl i’r rhai allai fod wedi meddwl nad yw addysg oedolion iddyn nhw.”
Enwebwyd gan:
Coleg Gŵyr Abertawe
Noddwr categori: