Enillydd Gwobr Heneiddio’n Dda
Jan Wallace

Enwebwyd Gan: Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Noddir gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Yn 81 oed mae Jan Wallace yn cadw ei meddwl yn heini diolch i’w chariad o ddysgu. Efallai fod pobl eraill ei hoed eisiau bywyd tawel, ond mae brwdfrydedd Jan wedi gwneud argraff ar ei thiwtoriaid gyda’i gallu i dderbyn gwybodaeth newydd.
Ar ôl ymddeol o addysgu, bu Jan yn gweithio’n lleol mewn siop gan ymddeol yn derfynol wyth mlynedd yn ôl. Mae’n mwynhau herio ei hunan, dysgu pethau newydd a chadw ei meddwl yn brysur. Mae Jan wedi ymuno â chlybiau a grwpiau lleol, sy’n helpu i gyfrannu at wneud ffrindiau a chysylltiadau cymdeithasol, ac mae’n mwynhau cyfnewid syniadau.
“Dros y blynyddoedd rwyf wedi manteisio ar gyfleoedd i ehangu fy ngwybodaeth o hanes, fy niddordeb arbennig. Mae dysgu pethau newydd yn gwneud i mi deimlo’n gadarnhaol ac yn helpu i ostwng straen bywyd bob dydd,” meddai Jan.
Esboniodd, “Rwyf wedi manteisio ar gyrsiau ar-lein ond mae’n llawer gwell gen i fynychu dosbarthiadau gyda thiwtor sy’n cyfarwyddo’r broses ddysgu. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddysgu gan arbenigwr a hefyd yn galluogi’r holl ddosbarth i ofyn cwestiynau ac mae’n cyfrannu at glywed barn wahanol.”
Mae Jan hefyd yn cymryd rhan mewn cymdeithasau hanes lleol ac yn gwirfoddoli yng Nghastell Aberteifi, lle mae’n mwynhau esbonio hanes y castell i ymwelwyr, gan ddefnyddio hiwmor i gynorthwyo eu dealltwriaeth bod hanes yn ymwneud â phobl a’u ffordd o fyw yn ogystal ag am adeiladau.
Dywedodd Ralph Haeussler, Tiwtor mewn Archaeoleg a Hanes yn Addysg Oedolion Cymru: “Ers y tro cyntaf i mi gwrdd â Jan gwnaeth argraff arnaf gyda’i brwdfrydedd, ei gwybodaeth a’i hymgysylltu beirniadol. Beth bynnag y deunydd neu’r cyfnod hanesyddol, mae Jan yn arddangos gwybodaeth ac arbenigedd sy’n cynyddu’n barhaus yn ogystal â’r gallu i feddwl yn feirniadol.”