Janine Price – Enillydd Gwobr Sgiliau Hanfodol am Oes 2025
Ar ôl gadael yr ysgol gydag ychydig o gymwysterau a dod yn fam yn ifanc, nid oedd Janine Price yn credu y gallai ganfod ffordd i yrfa. Gyda’i hunanhyder yn brin, credai’r fam 36 oed bod y cyfle i gyflawni ei breuddwydion yn mynd heibio. Ond sgwrs gydag un o athrawon ei phlant wnaeth ei hannog i archwilio cyfleoedd addysg oedolion. Erbyn hyn mae Janine yn ffynnu fel oedolyn sy’n dysgu, yn benderfynol o fod yn batrwm i’w phlant a’i golygon ar yrfa lawn amser mewn addysg.
“Cyflwynodd athro yn ysgol fy mhlant fi i raglen Addysg Oedolion Cyngor Caerdydd,” meddai Janine. “Fe wnes i gwblhau cwrs coginio i gychwyn gyda Multiply ac yna dechreuais y cwrs Rheoli Ymddygiad Plant gyda nhw.”
Fe welodd ei thiwtoriaid ei photensial a’i hawydd yn fuan iawn, ar ôl esbonio ei bod am ddod yn gymhorthydd cefnogi dysgu, fe’i cyfeiriwyd at yr Academi Dysgu, lle mae wedi ffynnu. Mae Janine wedi cwblhau amrywiaeth o wahanol gyrsiau ac mae ar hyn o bryd ar ganol astudio Seicoleg Plant Lefel 2 a Helpu Plentyn gyda Mathemateg. Mae’n bwriadu symud ymlaen i gyrsiau eraill.
“Rwyf hefyd wedi dechrau cwrs mathemateg i ddatblygu fy sgiliau sylfaenol fy hun ymhellach, ac rwyf yn irioneddol falch o hynny,” ychwanegodd Janine.
“Ers cael fy nghyflwyno i’r tîm Addysg Oedolion, mae fy hyder wedi cynyddu llawer ac rwyf wedi cyfarfod llawer o bobl newydd ar hyd y ffordd, rhywbeth yr oeddwn yn cael trafferth i’w wneud cyn hynny. Rwyf wedi dod o hyd i gariad ac angerdd at ddysgu eto.”
Dywedodd Rob Peters, y Swyddog Hyfforddi Addysg Oedolion: “Roeddwn yn dysgu Janine ar y cwrs Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion a thrwy gydol fy amser gyda hi, roedd yn fyfyrwraig ddelfrydol. “Roedd Janine yn awyddus i ddysgu, yn llawn cymhelliant ac yn ymgysylltu’n dda gyda mi, ond hefyd gyda’r cwrs a’r holl ddysgwyr eraill. Roedd yn rhoi boddhad gweld ei sgiliau a’i hyder yn parhau i ffynnu ym mhob sesiwn.”
Gan fod ganddi swydd wirfoddol eisoes yn ei hysgol leol, mae nod Janine o ddod yn gymhorthydd cefnogi dysgu lawn amser yn fyw iawn. “Fy neges i eraill yw nad ydych ar eich pen eich hun ar y daith hon, felly estynnwch allan a defnyddio’r help sydd ar gael,” dywedodd “Nid ydych fyth yn rhy hen i ail fynd i mewn i addysg a chyrraedd y lle’r ydych am fod.
“Weithiau bydd bywyd yn mynd o ffordd ac mae’n iawn cael saib ond cofiwch pam eich bod wedi cychwyn ar y daith hon bob amser a pheidio â rhoi’r gorau iddi.”