Enillydd Gwobr Cyflawniad Oes
John Gates

Noddir gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Mae John Gates, 82 oed, yn byw ym Maesteg ac yn dod o deulu o lowyr. Dechreuodd weithio yng Nglofa Coegnant pan oedd yn ddim ond 15 oed a gweithiodd ei ffordd lan o fod yn löwr dan hyfforddiant i fod yn ffiter, i berson cymorth cyntaf a ‘dyn achub’.
Dywedodd John: “Gadewais yr ysgol heb unrhyw gymwysterau, a prin y gallwn i ddarllen nac ysgrifennu. Roeddwn eisiau profi i fi fy hun ac eraill y gallwn wneud rhywbeth o fy mywyd.
“Fe fues i’n gweithio dân ddaear am 19 mlynedd ond penderfynais wneud cais am swydd mewn canolfan hyfforddi ar ôl i fy ngwraig ddod yn bryderus am beryglon y swydd. Dim ond ar ôl i mi symud i’r ganolfan hyfforddi fel hyfforddwr cymorth cyntaf y gwnaeth pethau ddechrau newid i mi o ddifri.
“Fe astudiais gwrs sgiliau sylfaenol am ddwy flynedd a sylweddoli y gallwn wneud unrhyw beth os oeddwn yn mynd amdani. Fe es ymlaen i gael tair lefel O yng Ngholeg Penybont a chymhwyster mewn Cyfrifiadureg wnaeth fy ngalluogi i ddal ati i weithio am bum mlynedd arall. Arhosais fel rheolwr hyfforddi i lofeydd eraill pan wnaeth y ganolfan hyfforddi gau.”
Yn ystod ei gyfnod yn y gangen hyfforddi, astudiodd John am radd yn y Dyniaethau y Brifysgol Agored. Fe wnaeth hefyd sefydlu ei hunan fel brodiwr o fri a theithio’r byd i addysgu ac ysbrydoli eraill.
Meddai: “Pan roeddwn yn tyfu lan, roedd fy mam a chymdogion o amgylch yn gwnïo ac yn gweu. Roeddwn yn ddiflas iawn ac yn brin o arian yn ystod y streiciau yn y saith-degau felly fe benderfynais roi cynnig ar frodwaith.
“Fe wnes ddechrau cwblhau citiau a sylweddoli y gallwn wella’r cynlluniau. Wrth i fy hyder dyfu, fe wnes ddechrau creu fy rhai fy hun. Fe fues ar gwrs edau aur yn Longleat House a gwneud cwrs preswyl ar frodwaith sidan Japaneaidd. Fe wnes hyd yn oed wneud y brodwaith ar gyfer gwisgoedd priodas fy nwy ferch ac wedyn wisgoedd bedyddio fy wyrion.
Dechreuodd John ar gwrs hyfforddi athrawon TAR dwy flynedd a bu’n gweithio mewn addysg anghenion arbennig. Cwblhaodd ei TAR yn 1998, yr un flwyddyn ag yr enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn.
“Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion 2000, gofynnwyd i mi roi araith i groesawu ymwelwyr rhyngwladol i’r Millennium Dome yn Llundain. Dechreuais sgwrsio gyda dyn oedd yn digwydd bod yn Weinidog Addysg yn Awstralia ac fe wnaeth fy ngwahodd i fynd i Awstralia i siarad am fy mhrofiad o golli fy ngwaith oherwydd bod y pyllau glo a’r melinau dur yn cau draw yno”.
Aeth y gair ar led ac ers hynny gwahoddwyd John i siarad mewn cynadleddau yn Norwy ac yn CONFINTEA VI Brasil. Siaradodd ddwywaith yn y Senedd yn Llundain, yn ogystal â nifer o weithiau yn Senedd yr Alban ac yn Senedd Cymru fel llysgennad dysgu byd-eang.
“Rwy’n cael llawer o bleser wrth siarad gyda phobl eraill a’u hysbrydoli. Y peth pwysicaf un am fy stori yw faint rwyf wedi mwynhau dysgu. Mae addysg yn antur; pan ydych yn camu lawr y llwybr hwnnw wyddoch chi byth lle bydd yn mynd â chi”, meddai John.
“Mae wedi mynd â fi o amgylch y byd ac i leoedd na fyddwn byth wedi medru fforddio mynd iddyn nhw, ond y budd mwyaf un yw hyder. Mae drysau yn agor ac yn cau, ond pan mae drws yn agor, mae gennyf yr hyder i gerdded drwyddo.”
Mewn blynyddoedd mwy diweddar daeth John yn Gadeirydd Men’s Shed, elusen sy’n anelu i drin problemau iechyd corfforol a iechyd meddwl dynion.
Dywedodd John: “Cafodd Men’s Shed ei ddechrau yn Awstralia i fynd i’r afael â hunanladdiad yn yr outback. Gan sylwi ar gynnydd tebyg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fe wnaethom benderfynu troi yr hyn oedd wedi bod yn glwb i gyn-aelodau’r lluoedd arfog yn Men’s Shed a chwrdd bob dydd Iau am ddishgled o de, cinio a siarad am wahanol brosiectau a phynciau. Mae hefyd yn gyfle i ddynion ddatblygu eu sgiliau a theimlo yn rhan o’r gymuned.”
“Ers ei gyflwyno, rydym wedi dechrau gweithio gyda Carchar Parc. Mae bellach Men’s Shed yn y carchar ei hun a gafodd ei dderbyn dan yr un ymbarél. Rwy’n ymweld yn gyson ac yn mwynhau’r sesiynau.”