Julia Anderson – Enillydd Gwobr Heneiddio’n Dda
Yn 2009, roedd Julia Anderson yn mwynhau gyrfa lwyddiannus mewn gofal cymdeithasol ar ôl mwy na dau ddegawd yn y proffesiwn.
Roedd wedi esgyn i ddod yn rheolwr ond newidiodd popeth pan gafodd ddiagnosis o glefyd awto-imiwn cronig a arweiniodd at gyflyrau mwy cymhleth a olygodd iddi golli ei gallu i symud, yn ogystal â gyrfa yr oedd yn ei charu.
Cafodd Julia ddiagnosis o Glefyd Behçet, salwch prin a gwanychol oedd yn achosi nifer o broblemau meddygol iddi, yn cynnwys blinder llethol. Roedd yn golygu na fedrai yrru car a’i chael yn anodd cerdded mwy nag ychydig o gamau. Daeth y bywyd cysurus oedd ganddi unwaith i ben, gan ei gadael yn ynysig am gyfnodau hir ac yn gynyddol ddibynnol ar bobl eraill.
Ond yn 2025 gwelodd Julia daflen yn hysbysebu cyrsiau crochenwaith yn Hyb Cymunedol Cwmpawd. “Cefais y croeso cynhesaf o fy ymweliad cyntaf un,” meddai. “Roedd y staff mor gyfeillgar a safon y cyfleusterau yn rhagorol. “Roedd crochenwaith bob amser wedi apelio ataf ond nid oedd lleoedd eraill wedi bod yn gyfleus neu’n rhoi digon o gefnogaeth ar gyfer fy anghenion, ac fe wnaeth Cwmpawd sylweddoli hynny yn syth.”
Fe wnaeth Julia ganfod ei hun eto drwy’r gwersi a dechreuodd ei hyder ddychwelyd. Roedd gweithio gyda chlai, cymdeithasu a chreu darnau yr oedd yn falch ohonynt yn ei gwneud yn llawen.
Dim ond dechrau ei hangerdd newydd dros ddysgu oedd crochenwaith. Mae cyrsiau Ailadeiladu Hyder drwy Ddysgu wedi dilyn mewn celf, crefft, ysgrifennu a hel achau, lle bu’n ymchwilio ei choeden deulu.
Mae dysgu wedi rhoi ymdeimlad newydd o bwrpas a llais i Julia. Daeth yn eiriolydd angerddol dros addysg oedolion, gan siarad yn aml am y gwahaniaeth cadarnhaol a wnaiff hybiau dysgu cymunedol i bobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd cronig.
“Rwy’n gefnogol iawn i’r Hyb oherwydd ei fod yn llythrennol wedi bod yn rhaff fywyd i fi a chynifer o bobl eraill sydd angen rhywle i droi ato,” meddai.
Roedd Julie Jones yn fentor i Julia yn Hyb Cymunedol Cwmpawd a dywedodd fod ei stori yn dangos y rhan hanfodol y gall addysg oedolion ei chwarae wrth droi bywydau o amgylch.
“Mae wedi rhoi rhywbeth roedd Julia yn ofni ei bod wedi ei golli am byth – bywyd tu hwnt i’w chyflyrau. Drwy ddysgu, creadigrwydd a chymuned, mae wedi ailadeiladu gobaith, diben a balchder yn yr hyn y gall gyflawni.”