Osian Lloyd – Enillydd Gwobr Oedolyn Ifanc 2025
Collodd Osian ei fam pan oedd yn chwech oed, gadawodd yr ysgol yn 13 oed a mynd i’r system ofal flwyddyn yn ddiweddarach a chael ei hun yn ddigartref yn 17 oed. Roedd wedi symud o’i dref enedigol ym Mlaenau Ffestiniog i Gaernarfon, ond roedd ei drawma o’i blentyndod yn dal gydag o, gan achosi gorbryder difrifol ac iselder.
Wrth symud i Gaerdydd yn 2019 i chwarae pêl-droed cychwynnodd ar daith drawiadol diolch i ymyrraeth Michael Sheen, yr actor amlwg o Gymru. Cychwynnodd eu perthynas pan wnaeth Osian chwarae yng Nghwpan y Byd y Digartref yng Nghaerdydd, lle bu’n ymwneud â The Wallich, elusen ddigartrefedd ac i’r rhai sy’n cysgu allan.
“Roedd Michael yn gwneud llawer iawn gyda’r twrnament a hefyd roedd yn ymwneud â rhaglen ddogfen am fy nhaith a’m profiad i,” meddai Osian. “Yn nes ymlaen roeddwn yn ddigartref eto ac mi es i ddigwyddiad tebyg i aduniad lle rhoddodd Michael araith rymus iawn. “Siaradais gydag ef am fy sefyllfa a’r trafferthion yr oeddwn yn eu hwynebu ac fe wnaeth gyfarfod ag ychydig o bobl o The Wallich a wnaeth fy helpu wedyn o ran cartref a chyllid.
“Fe wnaeth ei garedigrwydd, doethineb a’i benderfyniad i helpu i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru fy ysbrydoli i wthio yn fy mlaen trwy amseroedd caled. Daeth yn arwr i mi, yn ddylanwad mawr ar fy mywyd a wnaeth fy annog i ddysgu. Yn union ar yr adeg yr oeddwn yn dechrau colli gobaith, heb unrhyw un i droi ato, fo a The Wallich oedd fy llwyfan, fy nghefnogaeth ac ni anghofiaf eu cydymdeimlad fyth.” Erbyn hyn mae Osian yn dod i’r amlwg fel actor, ar ôl cymryd rhan yn ‘The Story Project’ The Wallich trwy
Gymru ar ddechrau 2024, rhaglen hyfforddi 10 wythnos yn y theatr a’i cyflwynodd i fyd y llwyfan a’r sgrin.
Mae eisoes wedi ymddangos ar y llwyfan yn Theatr y Sherman a arweiniodd at ei ran broffesiynol gyntaf yng Nghaerdydd. Dywedodd Rosie Seager, cydlynydd celfyddydau creadigol yn The Wallich: “Mae Osian wedi trawsnewid ei fywyd trwy rym dysgu oedolion, gan ddangos cryfder, penderfyniad ac ymroddiad anhygoel i’w daith yn dysgu.” Ychwanegodd Osian: “Wnes i erioed feddwl y byddai gyrfa actio yn addas i ‘rywun fel fi’, ond dysgu oedolion gychwynnodd y daith hon i ddod yn actor, dysgu chwarae
gitâr a bod yn greadigol.”