Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
Mewngofnodi Darparydd
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
  • CARTREF
  • Cael Ysbrydoli
    • Straeon Dysgwyr
    • Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli!
    • Cyfres Podlediad
  • Amdanom
  • Cyrsiau A Digwyddiadau
    • Chwilio pob Cwrs a Digwyddiad
    • Rhestr Darparwyr
  • Gwybodaeth i ddarparwyr
  • Cyswllt
Select Page

Parent Learning Group – Enillydd Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol 2025

Mae’r rhieni sy’n mynychu’r Grŵp Dysgu amlddiwylliannol yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd yn cael cyfartaledd o 120 o gymwysterau yn flynyddol sydd wedi helpu bron eu hanner i ddod o hyd i waith. Datblygodd y grŵp, a ffurfiwyd yn 2014, bartneriaeth lwyddiannus gyda Addysg Oedolion Cymru i ddangos manteision addysg oedolion, i fenywod a’u teuluoedd yn neilltuol.

Trwy ymdrin ag anghenion y gymuned, mae’r bartneriaeth yn grymuso rhieni trwy gynnig cyrsiau wedi eu hachredu a heb eu hachredu, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, digidol, gofal plant, sgiliau creadigol a choginio. Mae’r sgiliau a’r hyder y maent yn eu datblygu yn eu helpu i gefnogi addysg eu plant a thyfu’n bersonol a phroffesiynol.

Aeth bron i 50 o fenywod yn ôl i waith mewn sectorau amrywiol. Mae eu hannibyniaeth economaidd yn cynyddu incwm y teulu ac yn gwella ansawdd eu bywydau yn gyffredinol yn sylweddol. Helpodd y bartneriaeth ddysgu I gynyddu sgiliau a meithrin hyder, ymhlith menywod o gefndiroedd diwylliannol amrywiol yn neilltuol. Siaredir mwy na 65 o ieithoedd gwahanol gan rieni sy’n mynychu’r grŵp a daw 43% o’r disgyblion yn yr ysgol o deuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim.

“Mae effeithiau pellgyrhaeddol y cynllun dysgu oedolion hwn yn rhai diriaethol a thrawsnewidiol,” dywedodd Jayne Ireland, rheolwr rhanbarthol Addysg Oedolion Cymru, a enwebodd y grŵp am y wobr. “Trwy rymuso’r menywod hyn i oresgyn rhwystrau ac ailymuno â’r gweithlu, nid yn unig mae’r Grŵp Dysgu Rhieni o fudd i deuluoedd unigol ond hefyd mae’n cyfrannu sgiliau a thalentau gwerthfawr at yr economi leol.”

Dywedodd y tiwtor Christina Roy, sydd hefyd yn gydlynydd dysgu teuluol Ysgol Uwchradd Cathays: “Mae helpu rhieni i gefnogi eu plant i ddysgu’n well a datblygu eu hunain i fod yn hyderus, medrus a hunan-ddibynnol yn rhoi boddhad mawr.” Mae’r grŵp hefyd yn codi ymwybyddiaeth am atal diabetes a chyflyrau ar y galon mewn cymunedau sydd â risg uwch, ac mae wedi mwy na dyblu’r nifer sy’n cymryd brechiadau i 42%.

Dysgodd y rhieni sy’n dysgu sgiliau newydd trwy wirfoddoli, gan gynnwys prosiectau Cymunedol Caerdydd Lân ac mewn clwb brecwast. Dywedodd un
rhiant: “Rwyf wedi dilyn y cwrs i wella fy sgiliau ymarferol a chyfathrebu. Maen nhw wedi fy helpu i weithio gyda’m plant sydd yn un o’m nodau.”

Ychwanegodd Christina: “Heblaw ennill cymwysterau i ddatblygu eu hunain, mae’r holl ddysgwyr yn teimlo eu bod wedi helpu ei gilydd i greu gwell cymuned i bawb. Trwy rannu ein gwybodaeth, profiad a phositifrwydd, byddant yn tyfu.”

Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
GOV Wales
ESF
Learning and Work Institute
  • CARTREF
    • Amdanom
    • Gwybodaeth i ddarparwyr
    • Cyswllt
  • Cael eich Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Newyddion a Blogiau
  • Canfod Digwyddiad
    • Chwilio Digwyddiad Rhydd
    • Rhestr Darparwyr
  • Mewngofnodi Darparydd
    • Fy Nghyfrif
    • Digwyddiadau
©2019 Sefydliad Dysgu a Gwaith. Cedwir Pob Hawl.
  • Polisi Cwcis
  • Datganiad Hygyrchedd
  • Polisi Preifatrwydd

We are using cookies to give you the best experience on our website.

You can find out more about which cookies we are using or switch them off in .

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

Strictly Necessary Cookies

Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.

Cookie Policy

More information about our Cookie Policy