Enillydd Gwobr Dysgu ar gyfer Gwell Iechyd
Rachel Parker

Enwebwyd Gan: Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Noddir gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Cafodd Rachel Parker ei geni i fywyd cartref cythryblus gyda rhieni oedd yn gaeth i alcohol a heb fawr o gefnogaeth bryd hynny ar gyfer ei datblygiad a’i haddysg. Ar ôl iddi fynd i ofal, gadawodd yr ysgol yn ifanc a chanfod dihangfa mewn cyffuriau ac alcohol. Ar ôl blynyddoedd o gaethiwed, mae Rachel bellach yn lân ac ar ei ffordd i gyflawni ei breuddwyd o ddod yn gwnselydd.
Esboniodd Rachel: “Roedd cyffuriau ac alcohol yn mynd â fi allan o fy realaeth ond roedd yn atal fy nhwf ac yn cyfyngu fy mhotensial”. Daeth Rachel yn fam ifanc yn 18 oed pan anwyd ei merch Holly, a gafodd ei geni yn ddall a gydag anableddau difrifol eraill. Roedd yn anodd iddi roi lefel y gofal roedd Holly ei angen tra’i bod hi ei hun yn gaeth. Ar ôl colli gwarchodaeth o Holly aeth bywyd Rachel ar chwâl, gyda’i chaethiwed yn drech.
Er ei chaethiwed, roedd Rachel yn breuddwydio am yrfa lle medrai helpu eraill. Roedd yn edmygu ei chwnselwyr ar gamddefnyddio sylweddau. “Ar hyd fy nhriniaeth fe fyddwn yn aml yn meddwl, pe gallwn aros yn lân, efallai y gallwn wneud eu gwaith nhw ryw ddydd.”
Sylwodd Rachel fod pobl yn ei chael yn agos atynt ac y byddent yn mynd ati yn gyson am eu problemau, a’i bod bob amser yn rhoi amser i wrando. “Gwaetha’r modd, nid oeddwn mewn unrhyw sefyllfa i hyfforddi i ddod yn gwnselydd pan oeddwn yn gaeth fy hun”, esboniodd.
Flynyddoedd wedyn, unwaith y gallodd Rachel ddod yn lân ac aros yn sobr, gallodd ddechrau meddwl am hyfforddi a throi ei bywyd o gwmpas. Mae’n cofio: “Wnes i ddim erfyn ar fy nghwnselydd i fy helpu i fynd i rehab nes y deallais fod fy ffordd o fyw yn fy lladd. Diolch byth, fe wnaeth ddod o hyd i’r cyllid ac rwy’n credu iddi achub fy mywyd.”
Yn 2017 dechreuodd hyfforddi gydag Addysg Oedolion Cymru. Dywedodd Nicola Holmes, a enwebodd Rachel am y wobr: “Mae stori Rachel yn un o benderfyniad, ymroddiad a thwf personol. Mae wedi cael llawer o broblemau yn ystod ei thaith, a chafodd weithiau ddyddiau pan oedd yn amau hi ei hun. Eto nid wyf erioed wedi cwrdd â rhywun oedd mor benderfynol i wneud newid, nid yn unig ar gyfer ei dyfodol ei hun ond hefyd ar gyfer pawb sydd angen cefnogaeth yn union fel yr oedd hi yr holl flynyddoedd hynny yn ôl.”
Nawr, yn sobr ers naw mlynedd, bu Rachel yn gwnselydd cymwysedig am flwyddyn, ar ôl cwblhau dros 100 awr o gwnsela i ennill ei diploma. “Roedd cymhwyso yn deimlad swreal, roeddwn ar ben fy nigon ac mor falch o fi fy hun,” meddai Rachel.
Mae’n gweithio’n rheolaidd ar linell gymorth Narcotics Anonymous, a dywedodd “Rydw i eisiau cwnsela pobl oherwydd mod i eisiau rhoi yn ôl, dydw i ddim eisiau bod yn niwsans i gymdeithas.”
Fe wnaeth ffydd Rachel ei chadw’n gryf drwy’r holl golledion a ddioddefodd, yn cynnwys marwolaeth ei march Holly ddwy flynedd ar ôl iddi ddod yn sobr.
Symudodd ymlaen drwy ei diplomâu Lefel 2 a 3, ac mae wedi gohirio astudio am ddiploma Lefel 4 tra’i bod yn cymryd amser i drin ei chyflyrau iechyd. Mae’n parhau’n eiriolydd cryf dros addysg oedolion, gan ddweud “Mae’n rhaid i chi fynd amdani a rhoi’r cyfle hwnnw i chi eich hun. Rydych yn mynd i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd a dysgu llawer amdanoch eich hun a’r byd o’ch cwmpas.”