Shelby Weaver-Slaughter – Enillydd Gwobr Sgiliau Hanfodol am Oes
Mae Shelby Weaver-Slaughter yn defnyddio rhai o’r profiadau heriol a gafodd fel plentyn i lunio gyrfa wych mewn gofal cymdeithasol a helpu i newid bywydau pobl eraill.
Roedd Shelby yn cael ysgol yn anodd a, gan adael gyda dim ond un TGAU, teimlai fod ei hopsiynau yn brin. Ofnai fod ei breuddwyd o fynd i brifysgol allan o’i chyrraedd. Arweiniodd brwdfrydedd Shelby a’i hymroddiad i dwf personol y ffordd at brentisiaeth gyda Chyngor Pen-ybont ar Ogwr, gan sbarduno profiad addysg oedolion yng Ngholeg Penybont a newidiodd ei bywyd.
“Mae fy ysbrydoliaeth i barhau i ddysgu yn deillio o fy mhrofiad personol fy hun,” meddai Shelby. “Pan oeddwn yn ifancach, roedd gen i weithiwr cymdeithasol wnaeth fy nghefnogi drwy gydol cyfnod anodd yn fy mywyd. Cafodd effaith gadarnhaol arnaf a fy ysbrydoli i fod eisiau dod yn weithiwr cymdeithasol fy hun fel mod i’n medru cefnogi pobl eraill a gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.”
Roedd mathemateg yn neilltuol o anodd, ond ar ôl cael diagnosis o dyscalcwlia, sy’n effeithio ar y ffordd mae’n prosesu a gweithio gyda rhifau, roedd Shelby yn deall yn well pam ei bod yn ei gael yn anodd a sut i’w oresgyn.
Arweiniodd hyn at iddi gwblhau Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Cyfathrebu a hefyd Lefel 2 Cymhwyso Rhif fel rhan o’I fframwaith Prentisiaeth. Ar ôl gorffen Lefel 4 Prentisiaeth Uwch Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol, mae Shelby wedi bwrw ei golygon ar ei nod nesaf, sef astudio am radd prifysgol. Tu hwnt i’w llwyddiant academaidd ei hun, mae Shelby yn esiampl sy’n ysbrydoli ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol y dyfodol.
Mae’n defnyddio ei phrofiad ei hunan i gefnogi eraill drwy eu pryderon personol ac amheuon academaidd, gan brofi fod addysg oedolion yn llwybr hygyrch a grymus i yrfa gwerth chweil.
“Peidiwch â rhoi lan a manteisio i’r eithaf o bob cyfle sydd ar gael,” meddai Shelby. “Rwyf wedi gweld drosof fy hun y gall addysg fod yn heriol, ond mae bob amser wahanol lwybrau i lwyddiant, hyd yn oed os nad yw’r llwybr traddodiadol yn gweithio i chi.”
Disgrifiodd Abbie Foster, ei thiwtor coleg, daith Shelby fel un “newid bywyd”, gan ychwanegu: “Mae’r trawsnewid yma yn mynd tu hwnt i lwyddiant academaidd. Mae
Shelby wedi datblygu hyder, annibyniaeth ac agwedd twf. Mae’n awr yn wynebu heriau mewn modd cadarnhaol a rhagweithiol, gan ddangos gwir effaith datblygu sgiliau hanfodol mewn newid bywydau.”