Enillydd Gwobr Oedolyn Ifanc
Sophie Dey
Mae Sophie Dey yn “barod i herio’r byd” a chyflawni ei breuddwyd o ddod yn nyrs, ar ôl profi plentyndod heriol iawn.
Wedi ei maethu yn dair oed, fe’i mabwysiadwyd ddwy flynedd yn ddiweddarach ac yn y diwedd roedd yn cael ei haddysgu gartref, heb arholiadau ffurfiol, o 10 oed ymlaen gan y rhieni wnaeth ei mabwysiadu.
“Er fy mod yn gallu dysgu gartref, roedd rhwystrau o ran fy natblygiad cymdeithasol ac emosiynol a wnaeth fy ngadael yn bryderus iawn yn gymdeithasol ac roedd fy hyder yn brin iawn,” esboniodd Sophie, 19, sy’n byw ger Llandrindod.
Ar ôl i’r gwasanaethau cymdeithasol ymwneud â’i hachos, cofrestrodd Sophie yng Nghampws Aberhonddu Grŵp Castell-nedd Port Talbot yn Ionawr 2023, y gwnaeth ei ddisgrifio fel “cychwyn fy nhaith addysgol gyffrous”.
Yn fuan ar ôl ei phen-blwydd yn 18 oed, gadawodd ei theulu mabwysiedig a symud at ofalwr maeth blaenorol, gyda chymorth y gwasanaethau cymdeithasol a thiwtoriaid y coleg.
“Ers gadael cartref, mae bywyd wedi newid yn fawr er gwell ac rwyf nawr yn barod i herio’r byd!” dywedodd.
Mae Sophie wedi cwblhau cyfres o gymwysterau Mathemateg a Saesneg, gan gynnwys TGAU, a chwrs Lefel 2 Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Cyfun.
Mae’n symud ymlaen i’r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghyd â Bagloriaeth Cymru uwch, gyda’r nod o ddilyn Prentisiaeth mewn Nyrsio gan mai ei huchelgais i’w naill ai mynd yn nyrs iechyd meddwl neu nyrs plant.
“Petawn yn rhoi cyngor i unrhyw berson ifanc arall sydd wedi profi trawma yn eu bywydau, byddwn yn dweud wrthynt nad yw’r ffaith eich bod wedi cael dechrau caled i’ch bywyd yn eich diffinio fel person,” ychwanegodd Sophie.
“Mynnwch yr hyder i ddilyn eich diddordebau, credoau a’ch angerdd er mwyn datblygu i’r fersiwn orau ohonoch eich hun a phrofi eich bod yn gallu ei wneud, eich bod yn llwyddiannus ac yn awr mae holl gyfleoedd y byd ar gael i chi.”
Dywedodd Claire Bumford, darlithydd Sophie: “Mewn dros 25 mlynedd o addysgu, nid wyf yn meddwl fy mod erioed wedi dod ar draws menyw ifanc sy’n ysbrydoli cymaint â Sophie. Mae am fod yn nyrs, oherwydd, yn ei geiriau ei hun ‘fe fyddai’n braf helpu pobl eraill’. Mae’r cynildeb yna yn crynhoi Sophie.
“Mae hi’n astudio yn y coleg i wireddu ei breuddwyd gobeithio, er gwaethaf y ffaith ei bod wedi mynd trwy newidiadau mawr yn ei bywyd nifer o weithiau. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd Sophie yn llwyddo ac yn ennill y cymwysterau y mae arni eu hangen i gyflawni ei breuddwyd.”
Enwebwyd gan:
Grŵp Colegau NPTC
Noddwr categori: