Enillydd Gwobr Dysgu ar gyfer Gwell Iechyd
Stephen Reynolds
Ysbrydolwyd Stephen Reynolds i gael cymorth i ddysgu darllen ac ysgrifennu ar ôl clywed siaradwr mewn Cyngres GMB yn sôn am ei heriau ei hun gyda llythrennedd.
Trodd Stephen, 46, o Gasnewydd, at dîm dysgu Undeb y GMB i ofyn am help a chafodd ddiagnosis o ddyslecsia difrifol a chyflyrau niwrowahanol eraill o bosibl, sy’n effeithio ar leferydd ac yn gwneud rhyngweithio cymdeithasol yn anodd.
Trwy sesiynau un i un gyda thiwtoriaid, mae yn awr yn dysgu i ddarllen ac ysgrifennu. Mae’n ategu at ei wersi llythrennedd wythnosol gyda gwaith cartref ac mae am wella ei sgiliau ddigon i allu anfon negeseuon testun a chael trwydded peiriant codi.
Pan gollodd ei swydd mewn siop Wilko, lle’r oedd wedi gweithio ers mwy nag 20 mlynedd, roedd Stephen yn poeni y byddai ei anallu i ddarllen ac ysgrifennu yn rhwystr rhag dod o hyd i waith, ond fe gafodd ei swydd bresennol yn Tomoe Valve Ltd, Casnewydd cyn pen wythnos.
Er mwyn ad-dalu am y gefnogaeth barhaus y mae’n ei chael, rhedodd Stephen ras 10k yn Ninbych-y-pysgod godi mwy na £1,500 i helpu dysgwyr dyslecsig eraill.
“Gadewais yr ysgol heb unrhyw gymwysterau a meddwl, oherwydd fy mod yn hŷn, na fyddwn i fyth yn gallu darllen ac ysgrifennu ac na fyddai unrhyw un yn fy helpu,” meddai Stephen. “Newidiodd hynny pan glywais y siaradwr yng Nghyngres y GMB oedd wedi bod yn yr union yr un sefyllfa â mi. Fe wnaeth dysgu darllen ac ysgrifennu newid ei fywyd ac roeddwn am ddysgu i newid fy un i.
“Cefais help gan fy undeb ac fe wnaethant ddod o hyd i diwtor gwych i mi. Rwyf wrth fy modd yn dysgu, ni allaf aros am bob gwers ac rwyf am allu darllen biliau, negeseuon testun, papurau newydd, labeli a phethau mewn siopau, fel fy mod yn gallu siopa ar fy mhen fy hun.
“Rwyf hefyd am ddysgu digon fel fy mod yn gallu anfon negeseuon ar ffôn, oherwydd mae fy lleferydd yn wael ac ni allaf arddweud. Mae gennyf rwydwaith da o bobl o’m cwmpas sy’n fy nysgu a’m cefnogi. Hebddyn nhw fyddwn i ddim yma.
“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n meddwl am ddysgu yw ewch a gwnewch hynny, peidiwch â bod ofn. Mae help allan yna i bobl fel fi.”
Dywedodd Vincent Board o Undeb y GMB: “Wrth i Stephen barhau ar ei daith addysgol, mae’r trawsnewidiad ynddo o unigolyn swil i rywun sy’n angerddol dros ddysgu yn dyst i’w wytnwch a’i benderfyniad i oresgyn rhwystrau. Mae’n ysbrydoli eraill i ddilyn eu llwybrau eu hunain at hunan-welliant ac ymrymuso.”
Enwebwyd gan:
Undeb y GMB
Noddwr categori: