Enillydd Gwobr Dechrau Arni – Dysgwyr Cymraeg
Steven Wright
Enwebwyd Gan: Dysgu Cymraeg Morgannwg
Noddir gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Symudodd Steven Wright o Awstralia i Gymru. Bu’n gynllunydd ffasiwn cyn dechrau gyrfa mewn addysgu a symud i swydd darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru, cyn ei benodi i’w swydd bresennol fel Pennaeth Pwnc Ffasiwn Marchnata a Ffotograffiaeth.
Dywedodd Steven: “Roeddwn wedi ymweld â Chymru ychydig o weithiau o’r flaen, felly roeddwn yn gwybod mod i’n caru’r wlad. Roedd ethos yr ysgol yn apelio ataf ar unwaith pan gefais gynnig swydd ym Mhrifysgol De Cymru. Roeddwn wrth fy modd gyda’r syniad o feithrin talent yn lleol ac roedd yn teimlo fel mwy o her i symud i wlad oedd â diwylliant mor neilltuol.”
Roedd heriau wrth symud, meddai. “Fe symudais i Gymru yr un pryd ag roedd y Deyrnas Unedig yn gadael Ewrop. Roedd angen i mi addasu wrth symud i’r Cymoedd a doeddwn i ddim yn teimlo mod i’n perthyn i ddechrau. Roeddwn yn eithaf beirniadol o’r iaith a dim yn deall ei phwysigrwydd mewn gwirionedd.”
Pan ddechreuodd y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf oherwydd Covid 19, penderfynodd Steven ei ddefnyddio fel cyfle i ddysgu mwy am hanes Cymru. “Roeddwn yn gwybod fod angen i mi gynnwys yr iaith hefyd er mwyn dysgu mwy am Gymru. Roeddwn hefyd newydd gwrdd â fy mhartner, sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac yn gryf iawn dros yr iaith, felly fe wnes gofrestru ar gyfer cwrs ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg. Mae dysgu Cymraeg wedi fy helpu i ddeall y bobl, y diwylliant a’r wlad yn llawer gwell. Rwy’n gwerthfawrogi o’r newydd sut beth yw hi i deimlo fy mod gartre yng Nghymru ac yn teimlo’n aruthrol o falch i fyw yn y wlad yma.”
Bu Steven yn dysgu Cymraeg am dair blynedd ac mae’n diolch i’r Gymraeg am y cynnydd yn ei yrfa.
Yn ei swydd bresennol mae’n edrych ar ffyrdd y gall Prifysgol Cymru gysylltu gydag ysgolion, Llywodraeth Cymru a chynlluniau lleol. Ychwanegodd Steven: “Rydw i’n dysgu Cymraeg ers tair blynedd ac wedi gweld sut mae fy myfyrwyr a chydweithwyr yn ffynnu pan ydyn ni’n cynnwys y Gymraeg yn ein gwaith.”
Ychydig flynyddoedd yn ôl fe wnaeth greu Clwb Ffasiwn ar gyfer pobl ifanc 14-17 oed i ddylunio a chreu eitemau ffasiwn, cwrdd a chymdeithasu yn Gymraeg a dysgu am y diwydiant drwy gyfrwng y Gymraeg. Oherwydd fod llawer o gyrsiau yn Saesneg, roedd yn rhoi lle iddynt gyfuno eu hiaith gyntaf gyda’u hangerdd.
Meddai Steven: “Mae llawer o swyddi yng Nghymru yn gweld y Gymraeg fel sgil ddymunol ac ar ôl cael gwersi, mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Yr allwedd i ddysgu yw rhoi cynnig arni a pheidio ofni gwneud camgymeriad. Mae dysgu Cymraeg wedi fy helpu i wneud cysylltiadau ystyrlon gyda phobl na fyddwn efallai wedi siarad gyda nhw o’r blaen ond oherwydd eu bod wedi fy nghlywed yn siarad yr iaith, maen nhw yn teimlo’n fwy cysurus ac yn fodlon dechrau sgwrs gyda fi. Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd ac mae’r dyfodol yn gyffrous.”