Enillydd Gwobr Heneiddio’n Dda
Tony Morton
Mae Tony Morton wedi graddio gyda gradd mewn hanes yn 87 oed!
Dechreuodd y cyn brentis peirianneg Rolls Royce, a aeth ymlaen i ddod yn gyfarwyddwr ar grŵp o gwmnïau yng Ngogledd Orllewin Lloegr, astudio am radd yn ystod cyfnod clo y pandemig Covid dair blynedd yn ôl.
Roedd wedi cael ei hedfan yn ôl i’r Deyrnas Unedig o Bortiwgal ar frys ac roedd yn gaeth i’w fflat yng Nghaerdydd. Awgrymodd ei ferch a’i fab yng nghyfraith y byddai gradd yn ffordd dda iddo lenwi’r amser.
Yno y cychwynnodd taith ddysgu Tony yn ei wythdegau. Er ei fod yn gweld yr astudio a’r ymchwil yn ddiddorol, roedd ei sgiliau cyfrifiadurol 20 mlynedd allan ohoni.
Mae’n cofio: “Wrth i Covid ddechrau cloi’r Deyrnas Unedig, roeddwn ar goll. Roeddwn yn ddyn 84 oed prysur iawn ac nid oeddwn yn edrych ymlaen at gael fy nghaethiwo ac yn unig. Fe’m darbwyllwyd gan y teulu i gyflawni un o uchelgeisiau fy mywyd, a dechreuais astudio am radd gyda’r Brifysgol Agored a chychwyn ar fy nhaith ddarganfod rithwir.”
Gyda chefnogaeth werthfawr ei ddarlithwyr cysylltiedig mewn gwersi tiwtorial a gyda’r adborth parhaus am ei asesiadau, llwyddodd Tony i loywi ei sgiliau TG ac astudio yn ogystal ag ehangu ei wybodaeth academaidd..
Gwnaeth ei thad gymaint o argraff ar ei ferch, Diane, fel ei bod wedi ei enwebu am y wobr.
“Rydym wedi bod yn dyst i’r trawsnewidiad y mae fy nhad wedi ei brofi trwy astudio gyda’r Brifysgol Agored,” dywedodd.
“Er ei bod hi’n cymryd ddwywaith yr amser iddo wneud nodiadau, ysgrifennu ei aseiniadau a’r ymchwil, mae wrth ei fodd yn astudio ac yn dweud ei fod yn difaru na fyddai wedi gwneud hyn flynyddoedd yn ôl. Mae’n credu’n wirioneddol bod dysgu wedi ychwanegu blynyddoedd at ei oes ac mae’n tystio i hyn yn gyson. “Mewn archwiliad meddygol yn ddiweddar, roedd y meddyg yn cytuno bod cadw mor feddyliol effro, yn drefnus ac â diddordeb yn ei astudiaethau wedi helpu iechyd meddwl fy nhad, ei gof a’i lesiant yn gyffredinol.”
“Y flwyddyn ddiwethaf, fe gerddodd ar hyd Wal Hadrian, a chyn hynny Clawdd Offa a chyn hynny hyd y Deyrnas Unedig, rhwng ei astudiaethau!”
Ar ôl mwynhau ehangu ei wybodaeth, dywed Tony bod y “clwyf hanes” wedi cael gafael arno ac mae’n bwriadu parhau i astudio.
“Rwy’n hyderus bod Covid, i mi’n bersonol, yn drobwynt yn fy mywyd, a fydd gyda help fy nhiwtoriaid rhyfeddol, yn arwain at seremoni raddio,” ychwanegodd Tony.
Enwebwyd gan:
Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Noddwr categori: