Enillydd Gwobr Sgiliau Hanfodol am Oes
Grŵp Dynion Pobl yn Gyntaf y Fro

Enwebwyd Gan: Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Noddir gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Mae Grŵp Dynion Pobl yn Gyntaf y Fro, a ffurfiwyd yn 2012, yn cynnig lle diogel i ddynion yn y gymuned ddysgu sgiliau bywyd newydd a chysylltu gyda’i gilydd.
Caiff y sesiynau eu cynnal yn wythnosol mewn canolfan gymunedol yn y Barri a maent yn rhoi cyfle i ennill cymwysterau, gwneud ffrindiau newydd a thrafod materion sy’n bwysig iddynt.
Mae’r dynion yn amrywio o 18 i 60+ o ran oed , ac mae rhai yn byw gyda gwahanol gyflyrau yn cynnwys awtistiaeth, parlys yr ymennydd, sgitsoffrenia ac iselder. Gyda’r sesiwn bedair awr wythnosol mor boblogaidd, sefydlwyd rhestr aros a ffurfiwyd ail grŵp i ateb y galw.
Caiff y grŵp ei redeg ar y cyd gan y tiwtoriaid Liz Marriott a Joanne Price. Esboniodd Joanne: “Rydyn ni’n dechrau pob sesiwn drwy groesawu pawb, siarad am newyddion da neu unrhyw broblemau ac yna symud ymlaen i wahanol bynciau.”
Mae rhai o’r pynciau y rhoddir sylw iddynt yn cynnwys rheoli dicter ac ymdopi gydag emosiynau, trin arian, ailgylchu, paratoi bwyd, cymorth digidol a sgiliau bywyd eraill tebyg i reoli amser.
Gwelodd llawer o aelodau’r grŵp gynnydd mawr yn eu hyder o fynychu’r sesiynau ac aeth rhai ymlaen i wirfoddoli neu ddysgu darllen ac ysgrifennu. Caiff sesiynau eu defnyddio i drafod pynciau galwedigaethol, ond mae’r grŵp hefyd yn rhoi amgylchedd ar gyfer datblygu sgiliau cymdeithasol a chyfeillgarwch.
Meddai Joanne: “Mae llawer o’r dynion yn dioddef o unigrwydd, felly mae dod i’r sesiynau yn golygu eu bod yn mynd allan o’r tŷ a siarad gyda phobl, mae’n rhoi ymdeimlad o gwmnïaeth a lle diogel. Mae mudiadau eraill yn dod atom yn aml i drafod gwahanol bynciau tebyg i iechyd rhywiol dynion – help na fyddent efallai yn gofyn amdano ar ben eu hunain. Ysgrifennu yw un o’r prif sgiliau a addysgwn ac yn ddiweddar fe wnaeth un aelod ddysgu sut i ysgrifennu A fawr, ac Ashleigh yw enw ei chwaer, gall y pethau lleiaf wneud gwahaniaeth mawr.”
Ni fedrai Mark Tierney ddarllen nac ysgrifennu pan ymunodd gyntaf ond ers hynny mae wedi dysgu a chaiff yn awr ei gyflogi fel swyddog iechyd a llesiant y grŵp. Dywedodd “Rwyf wedi bod yn rhan o’r grŵp Dynion o’r cychwyn cyntaf, ac rwyf wrth fy modd. Rwy’n medru darllen ac ysgrifennu nawr, ac mae gen i swydd gyda’r grŵp. Dydych chi byth yn rhy hen i ddysgu ac mae’n well pan y medrwch gael hwyl ar yr un pryd. Roeddwn yn arfer teimlo’n ddiflas ac yn cwyno llawer, ond nawr rwy’n hapus bob amser.”
Yn y dyfodol mae’r grŵp yn bwriadu dal ati i ymchwilio pynciau newydd ac annog dysgwyr i gefnogi pynciau fyddai’n ddefnyddiol iddynt. Caiff amser ei neilltuo hefyd ar gyfer cyrsiau heb achrediad, tebyg i sefydlu siop ffug i ddefnyddio sgiliau rheoli arian, paratoi bwyd a sgiliau cymdeithasol y dynion.
Meddai Joanne, “Rwy’n caru’r grŵp. Rydyn ni’n chwerthin nes ein bod yn ein dagrau yn ystod ein sesiynau ac mae mor braf gweld drosoch eich hun sut y gall sgiliau pobl wella.”