Will Hougham – Enillydd Gwobr Sgiliau Gwaith 2025
Roedd Will Hougham newydd gychwyn ar ei yrfa yn y diwydiant sgrin pan gychwynnodd y cyfnod clo byd-eang o ganlyniad i’r pandemig COVID 19, gan greu ansicrwydd i filiynau o weithwyr y Deyrnas Unedig a roddwyd ar ffyrlo. Ond penderfynodd y cwmni lle’r oedd yn dysgu ei grefft fel technegydd effeithiau arbennig, Real SFX, ddefnyddio’r amser i adeiladu ar gyfer y dyfodol, gyda Will yn ganolog i’w ‘swigen waith’.
“Wrth edrych yn ôl, rwy’n ystyried fy hun yn lwcus i fod wedi parhau i weithio yn ystod yr amser hwnnw pan oedd bron bawb arall yr oeddwn yn ei adnabod yn methu gwneud hynny,” meddai Will. “Fe wnes i helpu i symud gweithdai oedd yn golygu bod y cyfleuster Real SFX newydd yn barod pan wnaeth cynyrchiadau ddechrau ffilmio eto. Rhoddodd y cyfle i mi gael profiad ymarferol gwerthfawr gydag amrywiol fathau o offer a fu’n rhan fawr o gael fy nghyflogi gan y cwmni ar ôl gorffen fy mhrentisiaeth.”
Mae gyrfa Will wedi ffynnu. Mae’r props a’r rigiau arbenigol y mae wedi eu creu wedi cael eu defnyddio ar sioeau teledu erbyn hyn. Mae hefyd wedi cwblhau cyrsiau mewn ardystio peiriannau codi a chwrs Lefel 1 Diogelwch a Thrin Effeithiau Ffrwydron Arbennig, y ddau’n werthfawr i’w wneud yn haws ei gyflogi yn y diwydiant.
Mae Will hefyd wedi rhannu’n hyn a ddysgodd trwy fentora’r genhedlaeth nesaf o brentisiaid Real SFX. Mae cwblhau ei brentisiaeth wedi helpu Will i ddatblygu fel unigolyn, “Mae llunio gyrfa wedi fy helpu i newid fy mywyd,” dywedodd. “Rwyf yn awr yn teimlo’n llawer mwy hyderus o’m sgiliau fy hun fel technegwr ac mae fy hyder mewn sefyllfaoedd cymdeithasol yn cyfarfod a sgwrsio gydag eraill wedi gwella’n fawr.”
Cefnogodd Sgil Cymru daith ddysgu Will ac mae ei benderfyniad wrth hyrwyddo prentisiaethau ymhlith eraill sy’n cychwyn yn y diwydiant wedi gwneud argraff neilltuol arnynt. “Nid yn unig roedd gwaith caled a pharodrwydd i addasu Will o fudd i’w dwf personol ond mae hefyd wedi cefnogi’r tîm yn Real SFX yn fawr,” dywedodd Sue Jeffries, asesydd arweiniol a Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru.