Yassmein Hussein – Enillydd Gwobr Rhannu Dyfodol
Mae Yassmein Hussein yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’w chymuned wrth iddi ymdrechu i wella ei sgiliau a’i gwybodaeth drwy Addysg oedolion.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r fam ifanc wedi cwblhau 13 cwrs addysg oedolion gyda Choleg Caerdydd a’r Fro a Chyngor Caerdydd. Mae rhai’n ymwneud ag anableddau dysgu, ADHD, awtistiaeth, dysgu fel teulu, rheoli straen a gwyddoniaeth.
Mae’n awr yn gobeithio gwneud cyrsiau seicoleg plant a busnes. Cyn cyrraedd Cymru, enillodd Radd mewn Fferylliaeth a Diploma Ôl-radd mewn Fferylliaeth Glinigol yn yr Aifft.
“Mae’n anodd cael tystysgrif sy’n cyfateb ym Mhrydain, felly fe wnes benderfynu edrych am ffordd arall I gefnogi fy mhlant ar eu taith addysgol, gan mai cadw teulu sefydlog ac integredig yn y gymuned yw fy mhrif flaenoriaeth,” esboniodd Yassmein.
Mae addysg oedolion wedi gwella Saesneg Yassmein a’i helpu i gyflawni ei huchelgais ar gyfer ei theulu a’r gymuned.
I rannu gwybodaeth o’r cyrsiau, sefydlodd grŵp Facebook sy’n cefnogi mamau plant niwroamrywiol, yn arbennig yn ei mamwlad yn yr Aifft. Mae hefyd yn hyrwyddo Addysg oedolion i famau eraill.
“Y prif reswm dros i mi ymuno ag addysg oedolion ar ôl symud i Brydain fwy na thair blynedd yn ôl oedd fy mod eisiau bod yn rhan o’r gymuned,” esboniodd Yassmein, sydd â’i gŵr Ahmed, yn llawfeddyg orthopaedig yng Nghaerdydd.
“Mae pobl wedi bod mor groesawgar ers i ni gyrraedd. Ar hyn o bryd rwy’n datblygu syniad am fecws gyda ffocws cymunedol lle gall menywod, yn arbennig famau, ddysgu pobi a sgiliau eraill i’w helpu i sefydlu busnesau.” Wedi’i hysbrydoli gan wirfoddoli fel pobwr, sefydlodd fusnes yn gwneud bisgedi a theisennau. Mae hefyd yn gwirfoddoli gyda Common/Wealth Sounding Board, prosiect creadigol cymunedol yng Nghaerdydd.
“Rwy’n berson gwahanol i’r hyn oeddwn pan gyrhaeddais Brydain gyntaf – yn dal â’r un angerdd ac uchelgais, ond gyda mwy o ymwybyddiaeth a chariad cryfach at wybodaeth a gwaith cymunedol,” ychwanegodd Yassmein.
Dywedodd Mags Richmond, tiwtor dysgu fel teulu Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae gan Yassmein freuddwydion mawr am y dyfodol ac mae’n batrwm o’r hyn y gellir ei gyflawni o gael y cymorth a’r cyfleoedd cywir. Mae ei hagwedd yn golygu ei bod yn ysbrydoli dysgu ei phlant ei hun ac mae’n amlwg yn anogaeth i bawb o’i chwmpas.”