Eisiau dysgu Cymraeg yn gyflym?
Dysgu Cymraeg Gwent | Coleg Gwent

EISIAU DYSGU CYMRAEG YN GYFLYM?
Ydych chi’n meddwl am wneud Llwybr Cyflym Iawn gyda ni ac eisiau gwybod mwy cyn i’r cwrs ddechrau?
Dewch i’r sesiwn blasu hon gyda Karen, tiwtor y cwrs, am sesiwn hwyliog am ddim lle cewch gyfle i ofyn cwestiynau a darganfod popeth am y cwrs.
BETH YW’R CWRS TRWY GYFLYM IAWN?
Cwrs dwys un diwrnod yr wythnos (9am-4pm) ar-lein.
Dysgwch 3 blynedd mewn 1! (Rhan Mynediad 1 a 2 a Rhan Sylfaen 1).
Mae’r cwrs yn dechrau 30.09.25.
Mynnwch ostyngiad o 50% gyda’r cod WELSH25 a thalu dim ond £50. Mae llawer mwy o ostyngiadau ar gael—mwy o wybodaeth YMA.
O fewn ychydig wythnosau byddwch chi’n gallu cynnal sgwrs sylfaenol gyda’ch cyd-ddysgwyr yn yr amseroedd presennol a gorffennol. Nod y cwrs hwn yw siarad Cymraeg a chael hwyl wrth ddysgu! Cewch gyfle i wneud tasgau gwrando, darllen ac ysgrifennu a gweithgareddau hwyliog hefyd mewn parau a grwpiau.
Os ydych chi eisiau cynnydd cyflym, os oes gennych chi’r amser i ymrwymo ac os hoffech chi elwa o’r holl fanteision y gall iaith arall eu cynnig, yna dyma’r cwrs i chi!
Dewch draw i’r sesiwn blasu am ddim cyn i’r cwrs ddechrau.
Ar-lein trwy Zoom
Sut i archebu?
Cliciwch ar y botymau isod i sicrhau eich lle neu cysylltwch â ni ar welsh@colegowent.ac.uk
Manylion
- Dyddiad: 23rd Medi 2025 
- Amser: 9:30am - 12:00pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 01495 333710
- E-bost: welsh@coleggwent.ac.uk