Dysgu Cymraeg Morgannwg
Dyn ni’n cynnig gwersi Cymraeg ar draws cymunedau Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Arweinir pob gwers gan diwtor ac mae pob dosbarth yn cael ei gynnal ar-lein ar hyn o bryd, ond mae dal modd i chi ddewis dosbarth sy’n lleol i chi, yn barod ar gyfer pryd y byddwn ni’n gallu dychwelyd i’r ystafell ddosbarth. Dyn ni’n cynnig cyrsiau ar-lein yn unig yn ogystal.
Dyn ni’n cynnig gostyngiad o 50% oddi ar bris ein cyrsiau 30 wythnos, lawr o £90 i £45 – dewch o hyd i’ch cwrs ar ein gwefan a defnyddiwch y cod gostyngiad yma wrth dalu: beginner50
Mae cyrsiau 30-wythnos yn gallu amrywio rhwng dosbarthiadau sy’n cwrdd unwaith yr wythnos, ddwywaith yr wythnos neu rhai sy’n cwrdd dair gwaith yr wythnos, ac mae pob un yr un pris.
Enw’r cwrs ar gyfer dechreuwyr yw ‘Mynediad,’ neu ‘Entry’ yn Saesneg, ac mae’n canolbwyntio ar Gymraeg llafar, gan gyflwyno geirfa, patrymau iaith sylfaenol a dywediadau pob dydd. Yn ogystal â hyn, mae gennym amrywiaeth fawr o gyrsiau ar gyfer pobl sy ddim yn ddechreuwyr – ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 01443 483 600
-
Cyfeiriad:
University of South WalesTrefforestPontypriddCF37 1DL