Chwiliad natur ac argraffiadau clai
Adnewyddu CBC
Wedi’i leoli yn ein dosbarth dysgu awyr agored yn Cae Dai, mae’r gweithgaredd hwn yn cyfuno celf a natur. Byddwch yn dysgu am rai o’r planhigion sy’n tyfu yn y gerddi a’r berllan ac o’u cwmpas, wrth archwilio’r lleoliaeth hardd a thawel hwn. Gan ddefnyddio blodau, dail a phennau hadau a ddarganfuwyd ar ein chwiliad natur, byddwch yn gwneud argraffiadau parhaol o’r strwythurau cain hyn gan ddefnyddio clai sychu aer.
Darperir holl ddeunyddiau’r cwrs a lluniaeth ysgafn.
Gan mai gweithgaredd awyr agored yw hwn, bydd angen i chi wisgo dillad ac esgidiau addas.
Mae’r gweithgaredd yn rhad ac am ddim, ond fe’ch cynghorir i archebu lle gan fod lleoedd yn gyfyngedig.
Manylion
- Dyddiad: 10th Medi 2024 
- Amser: 10:00am - 12:30pm
- Rhanbarth: Gogledd Ddwyrain Cymru
- Ffôn: 07751458907