Technegau lliwio naturiol
Adnewyddu CBC
Wedi’i leoli yn ein dosbarth dysgu awyr agored yn Cae Dai, mae’r gweithgaredd hwn yn cyfuno celf, natur a gwyddoniaeth.
Dysgwch pa ddail a blodau y gellir eu defnyddio i wneud llifynnau naturiol a sut i droi’r deunyddiau crai yn hydoddiant defnyddiadwy. Defnyddiwch y technegau rydych chi wedi’u dysgu i greu darn o gelf naturiol i fynd adref gyda chi.
Darperir holl ddeunyddiau’r cwrs a lluniaeth ysgafn.
Mae hon yn sesiwn ymarferol, ac efallai y bydd yn mynd yn flêr, felly gwisgwch ddillad addas.
Mae’r gweithgaredd yn rhad ac am ddim, ond fe’ch cynghorir i archebu lle gan fod lleoedd yn gyfyngedig.
Manylion
- Dyddiad: 9th Medi 2024 
- Amser: 10:00am - 12:30pm
- Rhanbarth: Gogledd Ddwyrain Cymru
- Ffôn: 07751458907