Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus – Sesiwn Flasu Ar-lein
Addysg Barhaus a Phroffesiynol

Mae’r sesiwn flasu ar-lein hon ar gyfer pawb sy’n ddwyieithog neu’n siaradwr cymwys Saesneg ac iaith arall ac sydd â diddordeb mewn bod yn ddehonglydd, neu sydd eisoes yn gweithio fel cyfieithydd ar y pryd yn eu cymuned leol ac a hoffai ddysgu mwy am y proffesiwn cyfieithu. Bydd yn rhoi gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen os ydych am gyfieithu ar y pryd ar gyfer y sector gwasanaethau cyhoeddus, megis gwasanaethau gofal iechyd, cymdeithasol, yr heddlu neu lysoedd yn y DU. Byddwch yn cael gwybodaeth am gyrsiau rhan-amser ar gyfer oedolion mewn cyfieithu ar y pryd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a gynigir gan yr Addysg Broffesiynol Barhaus ym Mhrifysgol Caerdydd.
Manylion
- Dyddiad: 22nd Hydref 2022 
- Amser: 2:00pm - 4:00pm
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- E-bost: jackmanz@cardiff.ac.uk