Cyrsiau Rhan-amser
Grŵp Colegau NPTC

P’un a ydych chi’n chwilio am hobi newydd, yn ennill sgiliau i symud ymlaen yn y gwaith neu’n syml angen cymwysterau i ddechrau gyrfa newydd, fe gewch chi amrywiaeth eang o gyrsiau byr, rhan-amser a phroffesiynol yng Ngrŵp Colegau NPTC.
Gall dysgu rhan-amser wella eich rhagolygon gwaith presennol neu roi hwb i yrfa newydd sbon mewn llawer o sectorau, yn enwedig y rhai â phrinder sgiliau. Byddwch yn gallu ennill sgiliau a chymwysterau newydd sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol i’ch helpu i symud ymlaen neu i newid gyrfa yn gyfan gwbl.
Mae ein cyrsiau yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn, yn hyblyg ac yn cynnig dosbarthiadau bach gan gynnig cefnogaeth un-i-un.
Mae gennym gyllid ar gael ac mae llawer o gyrsiau am ddim.
Cliciwch ‘Archebwch Nawr’ i bori drwy ein hystod lawn o gyrsiau rhan-amser.
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 0330 818 8100