ESOL – Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
Grŵp Colegau NPTC
Os nad Saesneg yw eich prif iaith gallwch ymuno â’n dosbarthiadau ESOL.
Gall dysgu Saesneg eich helpu i wneud ffrindiau, cael swydd, cael swydd well, helpu eich plentyn gyda gwaith cartref, siarad â’ch meddyg, athrawon a chymdogion eich plentyn, paratoi ar gyfer addysg bellach neu uwch a chymwysterau, a llawer mwy. Yn y DU, gelwir dosbarthiadau Saesneg i oedolion yn ‘ddosbarthiadau ESOL’. Ystyr ESOL yw Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Rydym yn cynnal gwahanol ddosbarthiadau yn y gymuned o lefel dechreuwyr i lefel uwch.
Cynhelir ein cyrsiau yn ystod y dydd a chyda’r nos ac mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys. Mae croeso i chi ymuno unrhyw bryd.
Mae cyrsiau ESOL yn cynnig y cyfle i wella eich sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu ar y lefel briodol.
Cliciwch ‘Archebwch Nawr’ i bori drwy ein cyrsiau ESOL.
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 0330 818 8100