Deall gwaith chwarae – gweminar Chwarae Cymru
Play Wales
Deall gwaith chwarae – gweminar Chwarae Cymru
Mae’r weminar hon, sy’n awr o hyd, yn cael ei chynnig i unrhyw un yng Nghymru sydd â diddordeb mewn hyfforddiant neu gymwysterau gwaith chwarae fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, sy’n cael ei chynnal rhwng 9 a 15 Medi.
Mae Cymru – Gwlad Lle Mae Cyfle i Chwarae, sef canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar asesu a darparu cyfleoedd chwarae digonol, yn cydnabod pwysigrwydd gweithlu â’r sgiliau priodol o ran y rhai sy’n gweithio wyneb yn wyneb â phlant yn ogystal â’r rhai y mae eu gwaith yn effeithio ar y lleoedd y mae plant yn chwarae ynddyn nhw.
Bydd y weminar yn cynnig cyfle i:
• ddeall mwy am wybodaeth a sgiliau gwaith chwarae a’i bwysigrwydd i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant
• cael rhagflas o Dewch inni siarad am chwarae – ein cwrs hyfforddiant diweddaraf sydd wedi’i ardystio
• cael trosolwg o’r hyfforddiant a’r cymwysterau gwaith chwarae sydd ar gael yng Nghymru
• ystyried y ffordd orau o gael hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae ledled Cymru.
Mae’r weminar yn cyfuno cyflwyniadau byr, gwaith mewn grwpiau bach, trafodaethau grŵp cyfan a gweithgareddau a gemau cyfranogol, creadigol.
Manylion
- Dyddiad: 10th Medi 2024 
- Amser: 10:00am - 11:00am
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 02920486050
- E-bost: workforce@playwales.org.uk