Dosbarth Meistr Calan Gaeaf Real SFX
Real SFX

Mae cwmni Real SFX wedi ennill Gwobr Emmy a nifer o wobrau BAFTA ac mae’n darparu ystod llawn o effeithiau arbennig ansawdd uchel ar gyfer y diwydiant teledu, ffilm a digwyddiadau.
Caiff dosbarth meistr calan gaeaf Real SFX ei arwain gan Freya Hargreaves. Bydd yn rhoi golwg i ni ar adran prostheteg newydd Real SFX gan arddangos colur gyda’u cyfarpar prostheteg newydd. Bydd Freya yn dangos sut i osod a pheintio prostheteg silicon a sut i wneud i’ch colur ddod yn fyw! Yn ogystal â chipolwg ar effeithiau arbennig, byddwn yn siarad am gyfleoedd i hyfforddi am yrfa yn y diwydiant a’r amrywiaeth o swyddi a chyfleoedd gyrfa.
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein