Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru yn elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau, oll wedi’u lleoli ar draws Cymru. Ond rydyn ni’n fwy nag adeiladau yn unig. Mae ein hamgueddfeydd yn ganolfannau cymunedol pwysig sy’n ymestyn tu hwnt i’w milltir sgwâr. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru ac rydyn ni’n deall bod gan bawb rywbeth i’w gyfrannu trwy ein hamgueddfeydd, ein casgliadau a’n gwaith.
Rydyn ni’n croesawu pawb am ddim, diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r croeso cynnes hwnnw’n ymestyn i bawb o bob cymuned sy’n ein helpu i ddangos fod Cymru ddoe, heddiw ac yfory yn genedl amrywiol. Mae rhywbeth yma i danio, cyffroi neu newid pob un ohonom. Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb – eich stori chi yw ein stori ni.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb. Rydyn ni’n ymroi i sicrhau na fydd tlodi, anfantais gymunedol, iechyd gwael nac anabledd yn rhwystro pobl rhag cymryd rhan. Traddodiadau diwylliannol, ieithyddol a deallusol Cymru fydd sylfaen ein gwaith gyda phawb. Mae Strategaeth 2030 yn ein harwain wrth i ni ymgysylltu â chymunedau a’u cefnogi i greu Cymru well.
Enillodd un o’n hamgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy’n archwilio hanes a diwylliant Cymru, Amgueddfa Gelf y Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 029 2057 3517
-
Cyfeiriad:
Amgueddfa Cymru Museum Wales