Un i’r Oedolion: Canva ar gyfer dylunio graffeg sylfaenol
Llyfrgelloedd Sir Gâr
Llyfrgell Rhydaman
Ydych chi erioed wedi meddwl beth mae eich plant yn ei ddysgu yn yr ysgol, pa dechnolegau maent yn eu defnyddio, neu wedi cael trafferth eu helpu gyda’u gwaith cartref?
Yma yn y Stordy Creadigol, rydym am eich helpu i deimlo’n hyderus wrth gefnogi eich plentyn gyda’i waith ysgol neu ei ddiddordebau. I nodi Wythnos addysg Oedolion, hoffem gynnig y cyfle i rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr alw heibio’r llyfrgell a dysgu rhai o’r hanfodion a ddefnyddir yma yn y Stordy Creadigol ac yn yr ysgol (ysgolion cynradd ac uwchradd).
Mae ein sesiynau’n cynnwys:
Dydd Llun 21 Medi 2026 – Tinkercad ar gyfer dylunio 3D ac electroneg
Dydd Mercher 23 Medi 2026 – Canva ar gyfer dylunio graffeg sylfaenol
Dydd Gwener 25 Medi 2026 – Scratch, iaith raglennu weledol sy’n seiliedig ar flociau (Codio)
Er y bydd pob sesiwn yn ymdrin â swyddogaethau sylfaenol pob rhaglen, bydd hefyd ddigon o gyfleoedd i ofyn cwestiynau am wahanol agweddau ar y Storfy Creadigol a thrafod prosiectau’r dyfodol.
Beth i’w Ddisgwyl:
Amgylchedd cyfeillgar a hamddenol lle gallwch ofyn cwestiynau, rhoi cynnig ar bethau newydd, a dysgu mewn ffordd sy’n gyfforddus i chi. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol!
Gwybodaeth Bwysig:
• Mae aelodaeth llyfrgell yn ofynnol ar gyfer pob mynychwr.
Digwyddiad yn Llyfrgell Rhydaman
3 Ffordd y Gwynt, Rhydaman, SA18 3DN
#paidstopiodysgu #wythnosaddysgoedolion
Manylion
- Dyddiad: 23rd Medi 2026 
- Amser: 10:00am - 11:00am
- Rhanbarth: De Orllewin Cymru
- Ffôn: 01554 744327
- E-bost: PEEvans@carmarthenshire.gov.uk