Cyfres Hyfforddiant Sgiliau Cyfrifiadura a Chodio
Coleg y Cymoedd
Mae gan ein cyfres hyfforddiant sgiliau cyfrifiadura rywbeth at ddant pawb!
Er mwyn gwella eich sgiliau gyda rhaglenni Microsoft Office a gwahaniaethu eich hun yn y farchnad swyddi gystadleuol heddiw, mae ein cyrsiau Microsoft Office Specialist yn hanfodol! Y dystysgrif MOS yw’r cymhwyster cyfrifiadura mwyaf cydnabyddedig y byd, gan roi sgiliau ichi y gallwch eu trosglwyddo rhwng amrywiaeth o rolau.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes codio, mae ein cymwysterau Datblygu Rhaglenni Gwe* yn rhoi’r sgiliau technegol ichi i gael gwaith mewn sector economaidd cynaliadwy sy’n tyfu’n gyflym a symud ymlaen yn y sector hwnnw. Mae’r cymwysterau hyn ar gyfer dechreuwyr, dysgwyr heb unrhyw brofiad a hefyd y rhai sydd eisoes â rhywfaint o wybodaeth mewn codio ac sydd am ennill cymhwyster cydnabyddedig i symud ymlaen yn eu dewis sector. Bydd y prosiectau asesu yn eich galluogi i adeiladu portffolio i ddangos eich gallu i ddarpar gyflogwyr.
*Efallai y bydd cyllid ar gael ar gyfer y cyrsiau hyn – holwch aelod o’r tîm ymhellach
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 01443 663128