Noson Agored Gogerddan
Prifysgol Aberystwyth, Dysgu Gydol Oes
Bydd arddangosiadau a fydd yn ceisio tanio brwdfrydedd y cyfranogwyr a’u hannog i agor eu meddyliau i’r posibiliadau diddiwedd sydd ar gael gyda Dysgu Gydol Oes – ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol.
Cynhelir y noson agored yn y Ganolfan Dysgu Gydol Oes, Adeilad Aberdaugleddau, Campws Gogerddan, Aberystwyth ar 25 Medi, 6yh i 8yh
Map:
https://www.aber.ac.uk/en/discover-aberystwyth/maps-travel/maps/#buildings/lord-milford
Digwyddiad 2 awr fyddai hon, yn agored i unrhyw un, a fyddai’n arddangos cyfleusterau Dysgu Gydol Oes yn ogystal â rhoi cyfle i ddarpar ddysgwyr siarad â staff academaidd, staff gweinyddol yn ogystal â dysgwyr presennol.
Yn ystod y noson, bydd Adran Gyrfaoedd y Brifysgol yn mynychu’r digwyddiad ac yn rhoi cyngor ac arweiniad perthnasol i westeion ar sail galw heibio.
Os ydych wedi cymryd rhan, anfonwch eich adborth atom drwy lenwi’r ffurflen hon:
Ffurflen adborth
https://forms.office.com/pages/responsepage.aspx?id=6IeBAER9SUijMqn9MtIDLeD7RTISWCtGtWovw-dBLQVUMUVOUDAzMUNYTkJLUlJTM0hOMDQ4V1NKSy4u
Diolch am gymryd rhan!
Manylion
- Dyddiad: 25th Medi 2024 
- Amser: 6:00am - 8:00pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 01970 621580