‘Sut i gynorthwyo plant i fod yn feddylwyr beirniadol ar-lein a datblygu eu lles a’u cydnerthedd digidol’ – Gweminar ar-lein am ddim
WISE KIDS
Fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion, mae Dr Sangeet Bhullar o WISE KIDS gynnig gweminar ryngweithiol ar-lein 90 munud am ddim i rieni, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol ar draws Cymru ar 20 Medi 2023 rhwng 5.15pm a 6.45pm (defnyddio Teams).
Bydd y weminar hon yn cynnig trosolwg byr o’r tirlun digidol sy’n newid, gan gynnwys datblygiad cyfleusterau chwilio newydd sy’n seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial megis Chat GPT. Bydd yn archwilio’r cyfleoedd a’r sialensiau o fod ar-lein i blant a phobl ifanc hefyd. Bydd yn helpu rhieni/gofalwyr/gweithwyr proffesiynol i ddeall sut y gallant feithrin sgiliau meddwl beirniadol eu plant, eu llythrennedd digidol a’u lles digidol mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran, fel eu bod yn gallu defnyddio’r Rhyngrwyd mewn ffordd fwy cadarnhaol a diogel. Yn ogystal, bydd y weminar yn rhannu strategaethau ac adnoddau ymarferol y gall cyfranogwyr eu defnyddio i’w cynorthwyo yn y rôl hwn.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin. Gallwch gofrestru yma:
https://forms.gle/aFUdRYpvyg2fyuFH8
Bydd yr holl rai sy’n cofrestru yn cael y manylion er mwyn ymuno wythnos cyn y digwyddiad.
Cefnogir y gweithdy hwn yn garedig gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion (18 i 24 Medi).
Manylion
- Dyddiad: 20th Medi 2023 
- Amser: 5:15pm - 6:45pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 01633673339