Sut i Hybu Eich Hyder a’ch Hunan Gred
RCS Cymru
Dewch i ymuno â ni am sesiwn gyfeillgar, hamddenol ac addysgiadol ar Sut i Hybu Eich Hyder a’ch Hunan Gred, sesiwn hyfforddi fyw ar-lein gyda RCS Cymru.
Mae RCS yn darparu cymorth personol, hyfforddiant a therapïau i helpu pobl a busnesau ledled Cymru i ddod o hyd i gyflogaeth barhaus a gwella eu lles ar gyfer gwaith. Mae RCS yn gwmni di-elw sydd wedi ennill gwobrau; rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau o safon sy’n trawsnewid miloedd o fywydau bob blwyddyn.
Bydd y sesiwn yn ymdrin â:
• Beth yw hyder a hunan-gred a pham mae ei angen arnoch chi.
• Effaith hunan-gred a hyder mewn dysgu, gwaith a bywyd a’r gwahaniaeth y gall hyn ei wneud.
• Pethau sy’n dylanwadu ar hunanhyder, er enghraifft, profiad yn y gorffennol, adborth gan eraill a hunan-siarad.
• Awgrym a thechnegau ar sut i hybu hunan-gred a hyder.
Byddwch hefyd yn cael cyngor ar sut i ysgrifennu cynllun gweithredu syml ar gyfer meithrin hunan-gred a hyder i’ch helpu i gyflawni unrhyw nodau sydd gennych. Efallai mai’r nod fydd parhau â’ch dysgu, cofrestru ar gyfer rhaglen ddysgu newydd, neu roi hwb i’ch rhagolygon o ddod o hyd i waith neu swydd newydd.
Unwaith y bydd eich lle wedi’i gadarnhau, anfonir dolen i’r sesiwn atoch o leiaf dri diwrnod cyn y sesiwn.
Manylion
- Dyddiad: 12th Medi 2024 
- Amser: 2:00pm - 3:30pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 01745 336442