ACT
Wedi’i sefydlu ym 1988, mae ACT wedi bod yn cyflwyno rhestr hir o raglenni hyfforddi, cyrsiau byr a chymwysterau sy’n helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial. O Twf Swyddi Cymru+, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch ar draws 30 o sectorau gwahanol, mae ACT yn gweithio gyda nifer amrywiol o ddysgwyr ac mae ganddynt dros 6,500 o bobl yn cwblhau cymwysterau yn llwyddiannus bob blwyddyn.
Cenhadaeth y cwmni yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl a, thrwy eu darpariaeth ddysgu, gweithio tuag at y nod o wneud Cymru yn lle gwell, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Gan gyflogi 360 aelod o staff ar draws 8 safle yng Nghymru, cafodd ACT ei restru’n ddiweddar fel y pumed Sefydliad Addysg a Hyfforddiant Gorau i weithio iddo yn y DU gyfan, yn y Rhestr Cwmnïau Gorau i Weithio Iddynt fawreddog, ac mae wedi ymddangos ar y rhestr am 6 mlynedd.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 029 2046 4727
-
Cyfeiriad:
Ocean Park House