Coleg Penybont

Mae Coleg Penybont yn sefydliad sydd wedi ennill sawl gwobr o fewn y sector Addysg Bellach (AB). Wedi’i sefydlu ym 1928, mae’r Coleg ers hynny wedi’i ddatblygu ar draws ei gampysau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phencoed.
Mae cyrsiau’n amrywio o TGAU i Raddau Anrhydedd, gyda chyfleoedd astudio rhan-amser a llawn amser ar gael. Mae cyrsiau rhan-amser mewn ystod eang o feysydd pwnc hefyd yn cynnwys Cyfrifon Dysgu Personol (CDP), rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi’r rhai sy’n bodloni’r meini prawf i gael mynediad at gyrsiau am ddim a chymwysterau proffesiynol i ddatblygu sgiliau.
Gall y cyrsiau hyn eich helpu i fod yn gyfrifol am eich gyrfa, symud ymlaen yn eich rôl bresennol neu ddatblygu sgiliau mewn maes yr ydych yn angerddol amdano. Mae cyrsiau ar gael o raglenni byr i rai y gellir eu cwblhau dros 2 flynedd.
Mae’r Coleg hefyd yn gweithio’n agos gyda mwy na 300 o fusnesau a chyflogwyr, gan gynnig hyfforddiant pwrpasol a chyfleoedd hyblyg. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i fyfyrwyr at ddewisiadau dysgu cyfunol, gan gynnwys prentisiaethau, interniaethau a lleoliadau gwaith.
Yn ogystal, mae Coleg Penybont yn cynnig portffolio o raglenni addysg uwch, gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac fel partner cydweithredol Prifysgol De Cymru.
I ddysgu mwy am sut y gall Coleg Penybont eich helpu ar eich taith, ewch i bridgend.ac.uk
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 01656 302302
-
Cyfeiriad:
Bridgend College