CrowdCymru
Brosiect cyffrous iawn sy’n cael ei redeg ar y cyd gan Archifau Gwent, Archifau Morgannwg a Chasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd. Fe’i hariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a bydd mynediad trwy lwyfan torfol a sefydlwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y prosiect hwn o ddiddordeb mawr i’r rhai sydd bob amser wedi bod eisiau ymwneud â gwirfoddoli gydag archifau De Cymru ond nad ydynt yn gallu teithio i unrhyw un o’r safleoedd.
Rydyn ni’n gwbl ddigidol, felly does dim ots ble rydych chi cyn belled â bod gennych chi fynediad ar-lein, a gallwch chi gyfrannu cyn lleied neu gymaint o amser ag y dymunwch!
Bydd y prosiect yn creu llwyfan ar-lein dwyieithog i wirfoddolwyr o bell dagio, anodi a disgrifio’r casgliadau treftadaeth ddigidol a gedwir o fewn y cadwrfeydd eithriadol hyn. Mae gwasanaethau archifau ledled Cymru yn cadw miliynau o gofnodion unigryw, ond mae llawer ohonynt wedi’u catalogio’n fach iawn ac felly’n anodd eu hadnabod a’u canfod. Bydd y prosiect hwn yn harneisio gwybodaeth unigolion mewn cymunedau ledled Cymru a thu hwnt i gyfoethogi ein treftadaeth gyfunol er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol – yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Cofrestrwch i wella’ch sgiliau TG a llythrennedd, eich gwybodaeth am hanes lleol de Cymru a chael profiad o wirfoddoli!
Dim angen profiad blaenorol gan y bydd hyfforddiant yn cael ei roi ar gais.
Cofiwch gysylltu os hoffech gymryd rhan!
Jennifer Evans
Digital Volunteering Project Officer / Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol
Twitter: @crowdcymru
Phone / Ffôn: 01495 742450
Email / Ebost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk
Gwefan: https://archifau.cymru/2022/08/16/croeso-i-crowdcymru/
#gwnewchrywbethgwahanol #dysguambyth #newidiwcheichstori
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 01495742450
-
Cyfeiriad:
Gwent Archives
Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg