Grŵp Llandrillo Menai
Sefydlwyd Grŵp Llandrillo Menai yn 2012 yn dilyn uno Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.
Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau i ddysgwyr oedrannus, gan gynnwys:
Cyrsiau Rhan-amser Am Ddim gyda Potensial:
‘Potensial’ yw enw ein darpariaeth dysgu gydol oes. Gall y cyrsiau hyn fod yn ffordd berffaith o gael cyfleoedd newydd mewn addysg, gwaith neu fywyd o ddydd i ddydd. Mae’r cyrsiau’n cynnwys TGAU, Saesneg a Mathemateg sylfaenol, a sgiliau cyfrifiadura a TG.
Cyrsiau Llawn Amser i Oedolion:
Oeddech chi’n gwybod? Nid oes uchafswm oedran ar gyfer cyrsiau llawn amser yn y coleg. Gallwch wneud cais cyn belled â’ch bod chi dros 16 oed. Mae ein cyrsiau i’r dim os ydych chi am ddychwelyd i addysg neu ddechrau gyrfa newydd neu os ydych chi eisiau datblygu sgiliau newydd.
Beth bynnag fo’ch oedran, ble bynnag rydych chi’n byw, beth bynnag fo’ch diddordebau neu’ch rhesymau dros fod eisiau datblygu sgiliau newydd neu ddysgu rhagor – gallwn ni eich helpu.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 01492 542 338
-
Cyfeiriad:
Grŵp Llandrillo Menai