Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn meithrin ac yn herio’r dalent greadigol orau o bob rhan o’r byd, gan rymuso rhagoriaeth, tanio dychymyg ac ysgogi arloesedd. Fel conservatoire cenedlaethol a thŷ cynhyrchu mwyaf Cymru, rydym yn hyfforddi mwy na 900 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 40 o wledydd, gan eu hyfforddi ar gyfer gyrfa gynaliadwy yn y celfyddydau fel arweinwyr y genhedlaeth nesaf o artistiaid.
Mae ein myfyrwyr yn cael eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd, gan wthio ffiniau yr hyn y gall y celfyddydau ei gyflawni i wneud cymdeithas yn well a chydweithio a chreu gwaith newydd ar draws ystod o leoliadau proffesiynol a chymunedol.
Rydym yn lle i bawb, mae uchelgais greadigol a chydweithio yn ganolog i’n rhagoriaeth.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 029 2039 1361
-
Cyfeiriad:
Royal Welsh College of Music & Drama