Javier Griffiths-Payne – Enillydd Gwobr Oedolyn Ifanc
Ar ôl ymadael â’r ysgol yn 14 oed heb unrhyw gymwysterau ffurfiol’, dychwelodd Javier Griffiths- Payne i addysg oedolion ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Dim ond ddwy flynedd wedyn, mae wedi sicrhau lle i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bryste, gan brofi nad yw hi byth yn rhy hwyr i newid trywydd eich bywyd.
Wedi’i ysbrydoli gan ei ddiweddar fam-gu a fu’n nyrs am 46 mlynedd, roedd Javier yn benderfynol i gael gyrfa mewn gofal iechyd ac adeiladu dyfodol y gallai fod yn falch ohono’. Roedd mynychu diwrnod agored yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn drobwynt: “Roedd fy nghalon ar yrfa mewn meddygaeth ond heb unrhyw gymwysterau, roedd yn anodd iawn canfod beth oeddwn ei angen fel myfyriwr aeddfed yn fy sefyllfa,” meddai.
“Ar ôl y diwrnod agored, roedd gen i well syniad am y nod a osodais i fi fy hun drwy drafod y gwahanol lwybrau y gallwn eu dilyn.” Ymrestrodd ar gwrs Lefel 2 Mynediad i Astudiaeth Bellach ynghyd â TGAU mewn Bioleg gyda’r Brifysgol Agored ac nid yw wedi edrych yn ôl.
“Roedd yn hyfryd dysgu mewn amgylchedd lle nad oedd fy niffyg addysg ffurfiol yn fy nieithrio, gan mai dyma oedd un o fy mhryderon mwyaf am ddychwelyd fel myfyriwr aeddfed,” meddai Javier.
Cafodd radd A mewn Mathemateg Uwch a’r graddau uchaf posibl ar gyfer Lefel 3 Mynediad i Addysg Uwch: Biowyddoniaeth. Fe wnaeth y cwrs dwys blwyddyn o hyd yn cynnwys cemeg, bioleg a biocemeg, ynghyd â modiwlau mewn sgiliau astudio a chyfathrebu, ei helpu i sicrhau lle ym Mhrifysgol Bryste.
Drwy ei holl astudiaethau, mae wedi bod yn gofalu am ei dad-cu anabl yn ogystal â bod yn gapten Tîm Cymru mewn gemau fideo cystadleuol yn rownd gymhwyso Pencampwriaeth Byd Ffederasiwn Rhyngwladol E-chwaraeon Counter-strike (IESF). Dywedodd Kathleen Weatherhead, Tiwtor Cwrs Mynediad i Addysg Bellach ac athrawes Wyddoniaeth:
“Mae Javier yn ddysgwr rhagorol. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae wedi dangos dro ar ôl tro frwdfrydedd gwirioneddol dysgwr aeddfed yn mwynhau’r cyfle i astudio a manteisio ar bob cyfle sy’n ei baratoi ar gyfer addysg uwch.”
Mae Javier yn awyddus i annog eraill i ystyried dychwelyd i ddysgu. “Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau eto,” meddai. “Pe byddai rhywun wedi dweud wrthyf pan oeddwn yn ifancach y byddwn yn astudio meddygaeth yn y brifysgol, byddwn wedi meddwl eu bod yn tynnu fy nghoes! Ond dyma fi. Wnaf i byth roi’r gorau i ddysgu!”