Technegau Cerameg
Rhwydwaith Addysg Oedolion y Fro
Technegau Cerameg 
Mae hwn yn arddangosiad untro o dechneg cerameg Siapaneaidd a elwir yn Mishima. Mae’r fideo YouTube wedi cael ei greu gan Lyn Thomas sy‚Äôn diwtor crochenwaith a cherameg profiadol iawn ac sydd wedi gweithio fel tiwtor dysgu oedolion ers dros 20 mlynedd.
Daw cerameg Mishima o ynys Mishima yn Siapan, ond fe’i cludwyd yn wreiddiol o Gorea tua’r 16eg ganrif. Mae’r dechneg hon o ddylunio arwyneb yn ffordd o dynnu lluniau trwy fewnosod stribyn o liw gwrthgyferbyniol i linellau sydd wedi’u hendorri mewn clai caled fel lledr.
Mae Gwasanaeth Dysgu i Oedolion Bro Morgannwg yn cynnig pedair rhaglen:
Cyrsiau’r Fro ‚Äì yn cynnig rhaglen hyblyg o gyrsiau hamdden.
Ailgydio yn y Trywydd Iawn ‚Äì mae‚Äôr cyrsiau hyn AM DDIM wedi’u cynllunio i helpu unigolion cymwys i ddychwelyd i gyflogaeth.
Canolfan Ddysgu’r Fro ‚Äì yn cynnig cyrsiau sgiliau sylfaenol am ddim i oedolion ym meysydd darllen, ysgrifennu a mathemateg. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill sy‚Äôn awyddus i ddysgu Saesneg.
Dysgu Cymraeg ‚Äì Mae’r Fro yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth – o ddechreuwyr i lefel fedrus.
Mae Lyn Thomas wedi gweithio am fwy nag 20 mlynedd fel tiwtor crochenwaith a cherameg i Wasanaeth Dysgu i Oedolion Bro Morgannwg. Mae Lyn yn darparu ar gyfer ‘Cyrsiau‚Äôr Fro’ sy’n arbenigo mewn cyrsiau Hamdden ac mae hi hefyd yn gweithio ar y rhaglen ‘Ailgydio yn y Trywydd Iawn’ sy’n cynnig cyrsiau iechyd a lles.
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 01446 733762