Cymhwyster Diogelwch a Hylendid Bwyd
Dysgu Oedolion Yn Y Gymuned Yn Nhorfaen

Cyfleoedd Wythnos Dysgu Oedolion
Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen yn cynnig 15 o
leoedd wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer elfen ddysgu Cymhwyster
Lefel 2 Diogelwch a Hylendid Bwyd.
Mae hwn yn gwrs ymwybyddiaeth/gloywi heb ei achredu, sy’n
berffaith i’r rhai sydd yn gweithio yn y maes arlwyo, manwerthu,
neu sydd am archwilio opsiynau newydd.
Gallwch gwblhau’r dysgu ar lein ar eich cyflymder eich hun o
fewn 4 wythnos
Byddwch yn derbyn tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs
Gallwch ddewis sefyll arholiad achrededig am £45
I gofrestru, ffoniwch 01633 875929 neu anfonwch e-bost i
course.enq@torfaen.gov.uk a bydd ein tîm cyfeillgar yn eich
cofrestru ar ein porth ar-lein.
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 01633 647647
- E-bost: course.enq@torfaen.gov.uk