Digwyddiad Blasu Gweithdy Dove
Grŵp Colegau NPTC
Digwyddiad cymunedol am ddim ddydd Mawrth, 23 Medi yng Nghanolfan Gymunedol Banwen, yn cynnig diwrnod hwyliog a diddorol i drigolion lleol a theuluoedd wrth dynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd dysgu i oedolion sydd ar gael trwy Weithdy Dove.
Yn rhedeg o 10 am i 3 pm, mae’r digwyddiad yn ymdrech gydweithredol rhwng Gweithdy Dove, Dysgu Oedolion Cymru, Powys, Dysgu Oedolion Castell-nedd Port Talbot a Grŵp Colegau NPTC. Ei nod yw arddangos yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael a rhoi cyfle i ymwelwyr roi cynnig ar weithgareddau trwy sesiynau blasu ymarferol.
Bydd gweithgareddau ar y diwrnod yn cynnwys rhagflas mewn:
• Celf
• Pyrograffeg
• Sgiliau digidol
• Ffotograffiaeth
• Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
• Cerfio llwyau caru Cymreig
• Rhifedd a llythrennedd
Yn ogystal ag archwilio’r hyn sydd ar gael i oedolion, anogir teuluoedd hefyd i ymuno a mwynhau lluniaeth am ddim, fan hufen iâ, a gweithgareddau i blant, gan gynnwys peintio wynebau.
Manylion
- Dyddiad: 23rd Medi 2025 
- Amser: 10:00am - 3:00pm
- Rhanbarth: De Orllewin Cymru
- Ffôn: 0330 818 8100
- E-bost: marketing@nptcgroup.ac.uk