Diwrnod Agored Dysgu Gydol Oes
Addysg Barhaus a Phroffesiynol

Rydym yn darparu amrywiaeth eang o gyrsiau rhan-amser ar adegau sy’n addas i chi. Dewch draw i sgwrsio am eich opsiynau.
Bydd sesiwn gyda’r nos hefyd ddydd Mawrth 16 Medi 17:00-19:00.
Darganfyddwch am ein cyrsiau rhan-amser i oedolion a Llwybrau i raddau ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn cynnal 300 o gyrsiau eleni mewn amrywiaeth eang o bynciau. Gallwch ddewis dysgu mewn ystafell ddosbarth neu ar-lein ac rydym yn cynnal cyrsiau yn ystod y dydd neu gyda’r nos.
Mae yna opsiynau cyllido ar gael, gallech hyd yn oed ddysgu am ddim gyda’r Hepgoriad Ffioedd Myfyrwyr a ariennir gan Medr. Gellir dod o hyd i feini prawf cymhwysedd ar ein gwefan.
Bydd lluniaeth ar gael. Byddwch yn cael croeso cynnes yn ein Diwrnod Agored!
Manylion
- Dyddiad: 16th Medi 2025 
- Amser: 12:00pm - 2:00pm
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- Ffôn: 02920870000
- E-bost: learn@cardiff.ac.uk