Sesiynau Blasu Addysg Oedolion Rhad ac Am Ddim ym Mharc y Scarlets
Coleg Sir Gâr
Gall bywyd fod yn brysur, ond ni ddylai hynny eich atal rhag dysgu Ymunwch â ni i gael blas ar y cyrsiau addysg oedolion sydd ar gael yng Ngholeg Sir Gâr.
I ddathlu wythnos Addysg Oedolion, rydyn ni’n eich gwahodd i ymuno â ni am noson o ddarganfod. Dewch draw i Barc y Scarlets, cwrdd â’n tîm o ddarlithwyr cyfeillgar a chael cynnig ar rai o’r gweithgareddau am ddim fydd yn rhoi blas i chi o’r cyfleoedd Addysg Oedolion sydd ar gynnig yng Ngholeg Sir Gâr.
Dydd Mawrth 22 Medi – 5:30pm tan 7:00pm
Dydd Mercher 23 Medi – 5:30pm tan 7:00pm
P’un a ydych am wella’ch sgiliau busnes, meistroli technoleg newydd, neu archwilio gweithgareddau creadigol, bydd rhywbeth gennym i weddu i’ch anghenion. Gydag opsiynau hyblyg fel dosbarthiadau nos a chyrsiau rhan-amser, gallwch ffitio addysg o amgylch eich ymrwymiadau presennol heb amharu ar eich gwaith neu fywyd personol.
Rhowch gipolwg ar ein hystod lawn o gyrsiau byr a chyfleoedd addysg oedolion ar-lein.
Amserlen Gweithgareddau:
Agenda
– Paratowch Eich Gyrfa ar gyfer y Dyfodol. Grymuswch eich Gweithlu. Gyrrwch Gynaliadwyedd.
Dewch i gwrdd â’r Academi Sgiliau Gwyrdd – Dysgwch am ein cymwysterau Sefydliad y Gweithwyr Proffesiynol Amgylcheddol a Chynaliadwyedd (ISEP), a ariennir yn llawn ac a gydnabyddir gan ddiwydiant. Dewch i wybod sut all y cyrsiau gefnogi cydymffurfiad, lleihau effaith amgylcheddol a meithrin sgiliau gwyrdd gwerthfawr. Dewch i gwrdd â’n tiwtoriaid arbenigol a gofynnwch gwestiynau. Archwiliwch gyfleoedd cyllido a pha mor hawdd ydyw i gofrestru. Eich dyfodol. Eich busnes. Ein planed.
– Sgiliau Coginio – Y sesiwn ragflas fwyaf blasus
Dysgwch sgiliau coginio ymarferol a chael hwyl yn y gegin! Perffaith ar gyfer dechreuwyr ac unrhyw un sydd am roi hwb i’w hyder wrth goginio, bydd y tîm Sgiliau 24 yn eich tywys drwy bob cam ymarferol. Dewch draw a choginiwch rywbeth danteithiol!
– Gwneud Torchau – Nid ar gyfer y Nadolig yn unig!
Byddwch yn greadigol a gwnewch eich torch hardd unigryw eich hun! Dysgwch sgiliau newydd, mwynhewch sesiwn hamddenol llawn hwyl, ac ewch â rhywbeth hyfryd adref i’w arddangos. Perffaith ar gyfer dechreuwyr—dewch draw, byddwch yn greadigol, a gwnewch rywbeth arbennig! ✨
– Dysgu Digidol Uniongyrchol (LDD) – Dros 4000 o gyrsiau ar-lein i ddewis ohonynt!
Dyma gyfle i ddarganfod a samplu un o’r 4000+ o gyrsiau byr rydyn ni’n eu cynnig drwy’r Platfform Dysgu Digidol ar draws De Cymru. Caiff amrywiaeth enfawr o feysydd a phynciau eu cwmpasu gyda Dysgu Digidol Uniongyrchol, ac rydych chi’n dysgu ar eich cyflymdra eich hun! Yn wahanol i eDdysgu Traddodiadol, rydych chi’n mynychu cyrsiau wedi’u hamserlennu’n wythnosol gyda chefnogaeth tiwtor, fodd bynnag rydych chi’n dysgu’n annibynnol ar eich cyflymdra eich hun. Dewch draw, rhowch gynnig ar un neu ddau o gyrsiau a thrafod eich anghenion gyda’n tiwtoriaid cyfeillgar.
– Coedwigaeth a Garddio – Dysgwch sgiliau llif gadwyn!
P’un a ydych yn bwriadu defnyddio llif gadwyn yn eich gardd eich hun, neu ddatblygu gyrfa yn cynnwys ystod eang o waith torri, cwympo coed a gwaredu, rydyn ni’n cynnig ystod eang o gyrsiau byr sy’n cwmpasu cynnal a chadw llif gadwyn, cwympo coed, torri prysgwydd, naddu canghennau a llawer mwy. Dewch i weld peth o’r offer rydyn ni’n eu defnyddio a darganfyddwch fwy am y cyfleoedd hyfforddi a chyllido.
– Darganfyddwch Wyddor Anifeiliaid – Ymddygiad, arsylwadau ac addasiadau
Rhowch gynnig ar yr hyn y gallech chi fod yn gwneud ar ein cyrsiau gradd – gwneud arsylwadau o ymddygiad anifeiliaid, adnabod rhannau o sgerbwd anifail, ymchwilio i sut mae gwahanol anifeiliaid wedi addasu i’r cynefin a mwy.
– Ydych chi’n chwilfrydig ynghylch dod yn gwnsler?
Dewch draw i’n sesiwn ragflas ryngweithredol i gael profiad o sut beth yw astudio cwnsela mewn gwirionedd. Archwiliwch sgiliau a nodweddion cwnsler a darganfyddwch a allai’r Radd Sylfaen mewn Cwnsela fod y cam nesaf i chi.
– Darganfyddwch raddau Amaethyddiaeth ar Fferm Gelli Aur
Dewch draw i’n Sesiwn Ragflas Amaethyddiaeth AU a darganfyddwch sut beth mewn gwirionedd yw astudio Amaethyddiaeth ar lefel addysg uwch. Archwiliwch heriau ffermio byd go iawn a rhowch eich sgiliau gwneud penderfyniadau ar brawf wrth i chi ystyried sut mae anifeiliaid, cnydau, busnes, cynaliadwyedd a thechnoleg amaethyddol yn effeithio ar ffermio modern. Cewch gyfle i: Archwilio senarios a heriau amaethyddol byd go iawn. Ystyried sut mae ffermwyr yn gwneud penderfyniadau gwybodus. Dod i wybod mwy am astudio Amaethyddiaeth AU a’r cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael. Dewch draw, cymerwch ran a darganfyddwch i ble y gallai gradd mewn Amaethyddiaeth fynd â chi!
Manylion
- Dyddiad: 22nd Medi 2026 - 23rd Medi 2026 
- Amser: 5:30pm - 7:00pm
- Rhanbarth: De Orllewin Cymru
- Ffôn: 01554 748179
- E-bost: marketing@csgcc.ac.uk